Dyma stori Nia a Bryn
Zoom Plant ac Ieuenctid
Wel, rydym wedi dysgu gymaint am ddefnyddio technoleg dros gyfnod Covid-19. Roedd llawer ohonom yn defnyddio Skype ers blynyddoedd, ond pwy oedd wedi clywed am ‘Zoom’? Rydym yma ym Mhwllheli wedi bod yn gwneud llawer o’n cysylltu hefo’n plant a’n ieuenctid bellach drwy dechnolegol.
Y broses gyntaf oedd cysylltu hefo rhieni’r plant drwy sefydlu grŵp Whatsapp gan egluro ein bwriad i barhau gwaith ein clybiau. Cawsom ymateb da a brwdfrydig. Gyda’r plant, mae’n braf bod rhieni’n ymuno yng ngweithgaredd y sesiwn Zoom. Dywed rhai o’r rhieni mai, ‘dyma’r unig dro yn ystod yr wythnos pryd mae’n plant yn gweld wynebau ei gilydd a sgwrsio’. Mae hynny’n galondid. Bu’n gyfle hefyd i ni fel arweinwyr ddod i adnabod y plant yng nghwmni ei rhieni.
Yn y sesiwn Clwb Plant Zoom rydym yn defnyddio’r Pecyn Clwb Plant Drwy’r Post mae tîm o bobl wedi bod yn ei gynhyrchu’n wythnosol ers cychwyn cyfnod y Clo. Rydym hefyd yn danfon copi drwy’r post i’r plant fel eu bod yn medru gwneud y gweithgareddau amrywiol sy’n cynnwys stori o’r Beibl, posau, gemau, crefft, ryseitiau, gweddi greadigol a sialensau.
Mae cyfle i rannu lluniau o’r hyn maen nhw wedi ei wneud ar y grwp Whatsapp.
Yn y Sesiwn byddwn yn trafod yr hyn mae’r plant wedi ei wneud ers y tro diwetha’ i ni gyfarfod, a chlywed os ydyn nhw wedi gwneud y sialens a osodwyd yr wythnos cynt.
Byddwn yn cael sgwrs am yr wythnos aeth heibio, yn chwarae gemau syml, yn cyflwyno’r stori o’r Beibl a gweddïo gyda’n gilydd. Rydym hefyd yn gallu dangos ffilm neu sleidiau ‘Powerpoint’ ar Zoom.
Hefo’r ieuenctid bu rhaid danfon llythyr atynt gan eu gwahodd i gyfarfod Zoom a disgwyl iddynt gysylltu drwy e-bost. Mae’r gweithgareddau eto’n dilyn fformat tebyg i’r Zoom plant
gyda’r pwyslais eto ar gadw perthynas – bawb ohonom. Bu’r sesiynau ieuenctid yn gyfle i’n pobl ifanc siarad am brofiadau’r cyfnod fel gwneud gwaith ysgol gartref ayb.
Mae’r cyfarfodydd Zoom, felly, yn rhan o’r cysylltiadau rydym wedi ceisio eu hadeiladu yn ystod y cyfnod clo.