Newyddion

David and Goliath from EBCPCW on Vimeo.

‘Rwyf wedi bod yn rhan o dïm ‘Merton Open the Book Storeytelling’ am flwyddyn a hanner bellach. Fe gawsom flas ar “Agor y Llyfr” pan ddaeth tïm o Eglwys Bresbyteraidd Cymru atom i ddathlu Diwrnod Cenhadaeth yn Eglwys Jewin, dwy flynedd yn ôl. Nid wyf yn cofio llawer o’r sesiynau oedolion ar y diwrnod ond rwy’n cofio bod y plant a’r oedolion fel ei gilydd wedi mwynhau’r cyflwyniad o “Ffrindiau Arbennig Iesu” allan o Agor y Llyfr. Rwyf bellach wedi sylwi bod timau Cymru ar wefan Open the Book yn weithgar iawn o hyd.

‘Roeddwn yn mynd i ysgol gynradd leol bob wythnos nes iddynt gau. Mae wedi bod yn fraint bod yr ysgol, o sylweddoli ei bod weithiau’n her i ysgolion fod yn derbyn unrhyw ddylanwad Cristnogol o’r tu allan, wedi ein croesawu ac felly rydym wedi gallu adeiladu ar y berthynas â’r ysgol. Ers ddechrau’r amser cloi, rydym yn cwrdd ar Zoom ac wedi bod yn gwneud recordiad o’r storïau. Yn ddiweddar mae “Open the Book” wedi bod yn defnyddio rhai o’r recordiad ar eu gwefan ac ar Facebook. Rydym ni wedi rhannu’r rhain gyda’n teuluoedd a phlant sydd wedi bod yn gaeth i’w cartrefi drwy’r amser cloi. Mae creu’r fideoau yn golygu llai o amser ac yn hawsach na mynd i’r ysgolion gyda’r paratoiadau sydd angen. Mae’r bwyslais wrth gwrs ar sut mae’r stori yn cael eu phortreadu ac nid ar allu’r storïwyr.

Ni rhagwelwn yn byddwn yn cael mynd nôl i’r ysgol am beth amser ond fe glywsom yn ddiweddar bydd yr ysgol yn defnyddio’r fideoau ar gyfer eu gwasanaethau foreol. Er ein bod yn colli’r ymweliadau â’r ysgol, datrysiad dros dro yw’r cyflwyniadau fideo a gweddïwn na fydd pa weinidogaeth bynnag a wnawn dros yr Arglwydd yn ofer. Gadewch inni fuddsoddi yn nyfodol ein plant ein gwerthoedd a’n treftadaeth Gristnogol yn enwedig pan nad oes mynediad cyfyngedig i ysgolion a lle nad oes dysgeidiaeth Gristnogol o gwbl.

“Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.” (1 Cor 15:58)