Mae hi’n troi yn fis Awst arnom a ninnau am droi trwyn y fan i olwg y mor yn sir Benfro ac ambell le arall ar hyd arfordir gogoneddus Cymru.
Daeth oedfaon byw y Sul ar Facebook Live a’r neges i’r Ysgol Sul a chyfarfodydd yr wythnos i ben am y tro, a ninnau mor falch o fod wedi gallu cynnal y rheiny heb fwlch ers mis Mawrth dros y cyfnod clo. Bu’r ‘sei@ ar Zoom’ yn foddion bendith ac anogaeth i bawb a allodd ymuno, a bu rhai o’n ffyddloniaid yn anhygoel yn eu dyfalbarhad i ymuno er gwaethaf diffyg bandllydan a rhwystrau technegol. Cawsom fynd drwy lyfr yr Actau ers y Pentecost a hynny yn clymu i mewn gyda’n hoedfaon ar Facebook Live ar fore Sul. Bu’n braf cael mynd am dro i’r llefydd yna y bu Paul ynddyn nhw a ninnau ddim yn cael meddwl am deithio i unlle am yr ugain wythnos y buom yn astudio’r gair efo’n gilydd ar y we.
Daeth cyfle hefyd i gynnal Cwrs y Beibl ar fore Mawrth dros Zoom a rhyw ddwsin yn ymuno â hwnnw i ddysgu am rediad stori fawr y Beibl a chysgodion yn yr Hen Destament o’r Gwaredwr. Bu’n brofiad i’w drysori o gael dysgu efo’n gilydd a chael dyfnhau mewn perthynas a ffydd yn Nuw. Yr ydym yn bwriadu parhau gyda’r cwrs ar y we a chyda’r sei@ am y tro ar y we ym mis Medi ac fe recordiwyd oedfaon i’w darlledu dros mis Awst yn y cyfnod ansicr hwn o baratoi ar gyfer yr hyn a ddaw ym mis Medi a thymor yr Hydref. Hyfryd hefyd yw meddwl fod grŵp o bobl ifanc o’r ardal wedi bod yn cyfarfod ar y we hefyd er mwyn annog ei gilydd yn eu ffydd.
Rhywbeth da arall a ddaeth o’n cyfnod heb gyfarfod fel eglwys, oedd derbyn anogaeth gan aelodau gwahanol o grŵp capel Bethesda ar Facebook yn y gyfres adnod y dydd. Bu’r grwp yn mynd ers 2011 gyda rhyw 100 o aelodau, ond o fewn mis o ddechrau darlledu ar y we a gwneud defnydd o’r grwp i gadw cysylltiad efo cynifer o aelodau a theuluoedd, fe ddyblodd y grwp a dod yn gyfrwng cyswllt a bendith i lawer iawn o’n haelodau a chyfeillion. Fe baratowyd yn agos i 60 fideo gan 43 o oedolion a phlant gwahanol. Mae’r rhain yn dal i’w cael ar dudalen y grŵp o dan ‘fideos’. Hyn yn ychwanegol at wasanaethau’r Sul a’r neges i blant yr Ysgol Sul. Byddech angen wythnos waith gweddol lawn bellach i wylio’r holl fideos sydd ar gael gennym, heb sôn am Gymanfa Ganu rhithiol hefyd a gafwyd yn nechrau Gorffennaf yn ôl ein harfer a thrwy lafur mawr rhai o’n haelodau! Hyn o gofio mai ychydig iawn o adnoddau o’r fath oedd ar gael yn y Gymraeg tan fis Mawrth. Mae’r we wedi ei lenwi yn y cyfnod clo gan ddeunydd Cristnogol yr eglwysi o bob iaith led led daear. Gweddïwn y
bydd llawer yn ymateb i’r newyddion da a gyhoeddir ac y bydd y cynnwys yn para i fod yn berthnasol i’r rhai sy’n gwrando. Er ein cyfyngu i’n cartrefi a rhwystro’n gwaith ymweld arferol i gymaint graddau, fe gynyddodd hyder llawer o’n haelodau i rannu am eu ffydd a’r gynhaliaeth y maen nhw’n ei chael eu hunain gan yr Arglwydd gydag eraill drwy’r we.
Bu’n gyfnod anodd o ran cysylltiadau arferol yr eglwysi gyda phlant, teuluoedd ac ysgolion a’n hedmygedd ni yn fawr o deuluoedd sydd wedi hyfforddi a diddanu eu plant adref, a bu’n fraint cael eu cefnogi gydag anogaeth o Lyfr y Llyfrau. Ni all yr un ohonom fod yn rhagweld sut y bydd ein gwaith plant ac ysgolion yn edrych yn y dyfodol, ond gobeithiwn y gallwn barhau i gydweithio ar draws ffiniau iaith ac enwad i fod yn cefnogi’r ysgolion gyda’r neges Gristnogol a’n teuluoedd gyda Newyddion Da Iesu Grist.
Bu’n gyfnod ansicr i lawer o ran gwaith yn yr ardal; i rai gyda pherthnasau mewn cartrefi gofal ac ysbytai, yn gyfnod enbyd i lawer a wynebodd golledion yn wrol iawn dan amgylchiadau caled; i bawb fu’n rhaid dal i gysgodi yn eu cartrefi gyda phawb arall yn cael rhyddid i deithio bellach. Parhawn i weddïo y bydd cymorth yr Arglwydd yn hawdd ei gael iddynt i gyd.