Nôl ym Mis Mawrth, pan orfodwyd y cyfnod clo arnom, roeddwn ar ganol un o’r cyfnodau Grawys mwyaf nodweddiadol erioed. Ar amrantiad bron, dilëwyd yr holl ofynion arnaf a restrwyd yn fy nyddiadur. Teimlwn yn euog braidd o brofi gymaint o ryddhad. Fel gweinidog newydd yn fy mlwyddyn gyntaf mewn Gofalaeth wyth eglwys, mae amser yn adnodd prin iawn i’w drysori! Yn sydyn – ynghyd â gweddill y byd – roedd pandemic wedi dod â phrysurdeb gorffwyll bywyd, i ben, gan roi cyfle i nifer ohonom bwyso a mesur ac anadlu.
Buan iawn y diflannodd fy rhyddhad a’i ddisodli gan bwysau ychwanegol, wrth i bobl eglwysi pob enwad, ddechrau cyfathrebu’n syth ar lwyfannau digidol, yn defnyddio cyfryngau ffrydio byw i gynnal gwasanaethau, yn cynnal cyfarfodydd gweddi ar ‘Zoom’, a darganfod ffyrdd newydd fyw, i addoli y tu hwnt i furiau eu hadeiladau. Plentyn y 60’au ydw i. Mae gennyf afael rhesymol ar sgiliau cyfrifiadurol ond ar brydiau, teimlaf fel dinosor yn yr oes ddigidol hon. Beth wnawn i?
Diolch fyth, mae yna griw o gymdeithasau Cristnogol ymroddedig a chefnogol iawn yng Ngofalaeth Ardal Llandinam. Oherwydd fy mod yn chwaraewr tîm, gwaeddais, ‘Help!’ a gyda chymorth Y Parchg Robert Bebb a‘i wraig Jacqui, dyma sefydlu tudalen Facebook i’r Ofalaeth. Y logo a ddewiswyd gennym ar ei gyfer oedd: ‘Dilyn Crist gyda’n Gilydd.’ Gwelir enwau’r wyth eglwys arno ar ffurf cwmpawd ac yn eu canol, y groes.
Y sialens fawr nesa oedd meistroli dawn ffilmio’r podlediad a’i osod ar y dudalen. Mae llawer ohonom wedi dysgu sgiliau newydd yn ystod y pandemic. Cefais fwynhad arbennig yn gweithio ar hwn! Rhannwyd y dasg hon gyda nifer o’m cyd-weithwyr sydd, erbyn hyn, wedi ymddeol. Mae nifer aelodaeth y dudalen wedi tyfu- erbyn hyn mae 73 aelod. Caiff linc i’r podlediad, ynghyd â thrawsgrifiad ysgrifenedig, eu he-bostio’n wythnosol ar Messenger gan yr henuriaid, i 69 o gysylltiadau ychwanegol. Caiff rhai o’r trawsgrifiadau, eu danfon yn bersonol i’r aelodau sydd ddim ‘ar y we.’ Gwnaed y sylw gan un henadur, bod y gwasanaeth yn cyrraedd fwy o bobl yn wythnosol bellach, na phan oedd drysau’r capel yn agored!
Yn ystod y cyfnod clo, sylweddolais yn ogystal, fod gennyf yr amser i gysylltu ag aelodau a gwrandawyr mewn sgwrs ffôn. Cefais gyfle gwych i ddod i’w hadnabod yn well a gwrando ar eu stori. Yn yr ardal wledig hon, mae gymaint o’r aelodau yn perthyn i’w gilydd. Mae pob cysylltiad â wneir, fel darn jigsô, a’r cyfanwaith yn tyfu fwyfwy yn wythnosol. Cyn y cyfnod clo, codi cwr y llen yn unig ar ddarlun gofalaethol y grŵp mawr hwn o bobl, yr oeddwn.
Yn ddiweddar, rhennais gyfres o bodlediadau ar Philipiaid. Roedd cymaint o lythyr Paul, yn berthnasol i’n sefyllfa ni. Roedd e’n ysgrifennu o’r carchar. Bu’r cyfnod Covid-19 fel dedfryd carchar i nifer. Eto, dywed Paul, “…ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd waith da ynoch, ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.” Nid oes gan unrhyw bandemic y gallu i rwystro gwaith achubol Duw trwy Ei fab Crist Iesu; nis gall ychwaith rwystro bwriadau na chynlluniau Duw ar ein cyfer fel unigolion ac eglwys.
Mae Ei greadigrwydd wedi ei amlygu mewn cynifer o ffyrdd. Un diwrnod, cefais gyfarfod yn ein gardd, â’r Parch Penny Burkhill a’r Parch Jenny Garrod. Trafodwyd y syniad o gynnal gerddi gweddi ar y darnau tir y tu allan i gapeli Caersws a Trinity. Fe aeth Penny ati’n syth i ddethol darlleniadau, myfyrdodau arnynt a gweddïau. Cafwyd ymateb ffafriol gan y gymuned. Rydym newydd bostio ar y dudalen Facebook, daith o gwmpas y darlleniadau o’r Beibl, myfyrdodau a gweddïau i fiwsig. Ym Mis Awst, gobeithiwn gynnal oedfaon awyr agored yn y ddwy ardd. Dyma’r pynciau:
1. Duw gyda ni.
2. Y Graig
3. Y Golomen
4. Y llef ddistaw fain
5. Y Groes
6. Dŵr a cherrig lan môr
7. Enfys y NHS
Felly, trwy gyfrwng podlediadau a gerddi gweddïau, mae’r pandemic wedi rhoi bodolaeth i ffyrdd newydd i addoli na fyddwn i erioed wedi breuddwydio amdanynt wrth gael fy ordeinio fel gweinidog ar yr ofalaeth hon, blwyddyn yn ôl.
Erbyn hyn, rydym yn ystyried ail-agor ein heglwysi ar gyfer addoliad, yn yr Hydref. Symudwn ymlaen yng nghariad y Duw sy’n creu, ym mhresenoldeb yr Iesu atgyfodedig a gallu pwerus yr Ysbryd Glân; cofiwn am fendith y gerddi gweddi. Gallwn fod yn hyderus a sicr yng ngeiriau Paul i Gristnogion Philipi: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy’r hwn sydd yn fy nerthu i.”(Phil 4:13) Wrth i ni ymddiried yn Ei gariad a’i drugaredd, “… bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.” (Phil 4:19) Drwy’r cyfnod clo hwn ac i’r dyfodol, daliwn i ddyfalbarhau; daliwn i weddïo gyda diolchgarwch yn ein calonnau.