Newyddion

‘The Sanctuary’

Blwyddyn gyfnewidiol iawn a fu 2020, on’d do? Oherwydd misoedd dan glo a chadw pellter cymdeithasol, cael gweld ein cymdogion ar nos Iau yn unig a hynny wrth glapio a chanu clod arwyr GIG, ni chawsom weld teulu’r eglwys. Bellach mae technoleg – a fu gymaint o fwgan i ni cynt – yn mynnu lle canolog yn ein bywydau, boed hynny drwy gyfrwng Zoom, neu ddod o hyd i wasanaeth ar Facebook neu YouTube.

Efallai bod ein hadeiladau wedi eu cau gan y pan demig ond nid yw’r Eglwys. Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion fynd i’r holl fyd i ledaenu’r efengyl. Efallai na fyddem erioed wedi dychmygu mai trwy gyfrwng Gwasanaethau ar-lein y byddai gwireddu hyn. Fodd bynnag, roedd gan yr Arglwydd gynlluniau eraill.

Dangosodd ymchwil gan TEAR Fund yn ystod y cyfnod clo, y bu i un o bob pum oedolyn sydd ddim yn mynychu eglwys, ymuno â gwasanaeth eglwys ar lein. Cyhoeddodd Eden – sef un o siopau llyfrau Cristnogol mwyaf Prydain – bod canran gwerthiant Beiblau mewn mis yn ystod y cyfnod clo, wedi cynyddu o 55%

Pam hynny tybed? Meddyliwch am hyn. Un o’r rhwystrau pennaf i lawer o bobl yn mynychu Eglwys am y tro cyntaf, yw’r cam cyntaf corfforol hwnnw dros y rhiniog. Gofidiant am ymdoddi i gymdeithas yr eglwys, am gael eu barnu, ymddwyn yn briodol, gwisgo’n briodol. Nid yw’r pethau hyn yn berthnasol i wasanaethau ar lein. Cewch wylio wrth eich pwysau, gwasgu’r botwm ‘pause’ neu fynd yn ôl i’r dechrau, fel y mynnwch, heb boeni dim.

Menter Newydd gan Henaduriaeth ‘S.E. Wales’ yw ‘The Sanctuary’, ffrwyth misoedd o weddi, cynllunio a pharatoi. Bydd rhaglen Newydd ar lein yn dechrau ar Ddydd Sul, 4ydd Hydref, am 4 o’r gloch. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n fyw ar Facebook o stiwdio ym Mhontypridd. Ymgais i gyflwyno’r berthynas unigryw rhwng Duw a’r Beibl fydd hwn. Man diogel fydd hwn, yr estynnir croeso i bawb yn ddiwahân i ymweld ag e, er mwyn addoli a dysgu mwy am ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist.

Cymuned Newydd ar lein i bobl o gefndir amrywiol fydd ‘The Sanctuary’. Pobl fydd y rhain ag un peth yn gyffredin iddynt sef yr Arglwydd Iesu. Beth bynnag yw eich sefyllfa, os yn Gristion newydd, yn Gristion aeddfed neu heb eto ddod i gredu yn Iesu, fe fydd gan ‘The Sanctuary’ rhywbeth arbennig ar eich cyfer. Beth am fentro?

Dowch o hyd i ‘The Sanctuary’ ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube. Chwiliwch am ‘The Sanctuary’-Wales neu dilynwch un o’r linciau isod:

https://www.facebook.com/TheSanc2020/

https://www.instagram.com/thesanc2020/?hl=en

https://twitter.com/TheSanc2020

https://www.youtube.com/channel/UC_EuZbvCE57tdJXkHtOBb_Q/about