Newyddion

Dyma stori Rhodri Wyn Phillips

Ers i’r “Lockdown” ddechrau, mae hi wedi bod yn gyfnod gwahanol a rhyfedd iawn sydd wedi dod â nifer o sialensau i ni fel pobl.

 

“Ond yn Ardal Tawe, Nedd a Crai un o’r ffyrdd i ni wedi medru cadw’r hwyliau yn weddol hapus yw cynnal cwis wythnosol. Mae’r cwis wedi cael ei hysbysebu gwefannau Cymdeithasol Tawe, Nedd a Crai ac wedi hefyd cael ei rhannu a thudalennau cymdeithasol yr ardaloedd hynny.

Mae’r ymateb wedi bod yn grêt, gyda phobl yn ymuno a ni o’r ardaloedd o fewn y cylch a hyd yn oed mor bell i ffwrdd ag Ynys Manaw a’r Rhondda.

Rydym wedi cael sawl cwis ac mae’r tensiwn a’r natur gystadleuol wedi bodoli yn bendant ond hefyd mae nhw wedi bod yn llawn hwyl, sbort a brawd/chwaergarwch.

Pwy a ŵyr efallai ar ôl i’r “Lockdown” a’r feirws hyn i orffen na fydd y cwis yn parhau i gyrraedd nifer o bobl sydd yn unig ac angen cysur cymdeithasol yma heb orfod gadael eu cartrefi?

Os hoffech ymuno mae’r cwis yn digwydd pob nos Fercher – am 8pm ar hyn o bryd. Dyma fy e-bost (rhodri.phillips@ebcpcw.cymru) os hoffech fwy o wybodaeth am ein Cwis, Cwrdd Gweddi neu wasanaethau Sul yn ardal Tawe, Nedd a Crai.”

Boed i’r ARGLWYDD eich bendithio chi a’ch amddiffyn chi.

Boed i’r ARGLWYDD wenu’n garedig arnoch chi, a bod yn hael tuag atoch chi.

Boed i’r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi, a rhoi heddwch i chi.’

Numeri 6: 24-26