Newyddion

‘Cyfrif y bendithion, cyfrif un ac un, synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn’

Nid geiriau y byddem yn eu cysylltu’n rhwydd â’r cyfnod anodd hwn efallai. Ac eto, er gwaethaf yr holl ddioddefaint a cholled a achoswyd gan COVID19, bu bendithion annisgwyl hefyd.
Ers mis Mawrth, rydym wedi bod yn cynnal gwasanaethau ar Zoom bob prynhawn Sul gyda gwasanaeth cymun unwaith y mis a Chymanfa Ganu ym mis Mai. Mae dod at ein gilydd mewn addoliad wedi bod yn nerth ac yn help i lawer ohonom, a’r hyn sydd wedi bod yn arbennig o galonogol yw’r gymdeithas a’r gefnogaeth a gawsom gan ffrindiau sy’n ymuno â ni o bob rhan o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys Canada, America a Siapan.

Ar nodyn personol, mae hi wedi bod yn fendith aruthrol i mi weld cymaint o fy nghynulleidfaoedd bob Sul ar Zoom. Fel arfer, rwy’n treulio oriau lawer yn teithio i lawr ac i fyny y Piccadilly Line a llinellau eraill, ac ambell waith ar gefn beic, yn teithio o gapel i gapel. Weithiau, nid wyf yn gallu ymweld na chyfarfod ag aelodau a chyfeillion yr eglwysi mor aml ag yr hoffwn.
Mae’r un peth yn wir am y plant a’u teuluoedd. Nawr rwy’n cwrdd â nhw bob bore Sul ar gyfer yr Ysgol Sul ar Zoom ac yn cadw mewn cysylltiad â theuluoedd ar WhatsApp. O dan amgylchiadau arferol, efallai mai dim ond ychydig o weithiau’r flwyddyn y byddaf yn llwyddo i weld rhai o’r teuluoedd hyn. Mae bod gyda nhw bob wythnos yn golygu fy mod wedi dod i’w hadnabod yn llawer gwell gan adeiladu perthynas agosach â nhw er ein bod ni ar wasgar ar draws Llundain a thu hwnt.

Meddai’r Salmydd, ‘Llawenychais pan ddywedant wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd’ (Salm 122:1) ac rydym ni’n colli yn arw bod gyda’n gilydd wyneb yn wyneb yn y capeli. Er gwaethaf ei holl rinweddau, nid yw Zoom yn siwtio pawb boed hwy’n oedolion neu’n blant. Rydym yn edrych ymlaen at gyd-addoli eto yn y capeli fel teulu yr eglwys. Wrth nodi hyn, rwy’n cyfrif fy mendithion am gyfleoedd newydd, a chyffrous a rhai, er mawr syndod, na fyddent wedi bod yn bosibl pe na bai’r cloi mawr wedi digwydd.

‘Cyfrif y bendithion, cyfrif un ac un, synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn’