Mae cynnal oedfaon a grwpiau eglwys, wedi bod yn heriol iawn i lawer o bobl yn ystod y misoedd diwethaf. Calondid o’r mwyaf yw clywed am y ffyrdd a gymerwyd gan rhai i ymgiprys â sialensau newydd, a hyn i gyd oherwydd eu sêl i gyhoeddi gair Duw. Llwyddwyd i gynnal cymdeithas a chael cymundeb. Cafodd y byd weld nad yw hyd yn oed teyrnas y firws a heintiau gwahanol, yn medru rhwystro llwyddiant yr Efengyl. Mae technoleg ar-lein wedi caniatáu datblygu syniadau newydd sy’n hybu cyfraniad gan y gynulleidfa. Mae’r eglwys wedi gorfod addasu er mwyn ateb gofynion byd wedi ei ynysu.
Mae gwasanaeth TATL Gaming EBC ar gyfer bobl ifanc hefyd wedi gorfod newid ac addasu yn ystod y cyfnod hwn. Cynt, gyda’r mymryn lleiaf o gonsyrn am iechyd a diogelwch, byddem yn cyfarfod mewn neuaddau eglwysi a gosod ein hoffer trydanol, heb feddwl dwywaith am y nifer o bobl a fyddai’n defnyddio’r offer hwnnw mewn diwrnod. Yna’n cynnal sesiynau siarad am yr Iesu, a’r rheini fel llenwad rhwng dwy frechdan o dwrnamentiau gemau. Hyn oll, wrth gael bwyd a diod yn cynnwys creision mewn powlen i’w rhannu, yn amlach na pheidio!
Pan ddaeth Covid 19, daeth tro ar fyd. Ar y dechrau, rhaid oedd diheintio pob darn o offer. Wrth i’r sefyllfa waethygu, rhaid oedd i’n gyfarfodydd ddod i ben. Blaenllaw ar feddyliau pobl oedd sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau. (Ydych chi’n cofio’r prinder papur tŷ bach?) Nid oedd clywed am yr Iesu wrth chwarae’r Xbox na’r PlayStation diweddara o fawr bwys i neb wedyn. Yn naturiol, diogelwch pobl a GIG oedd y flaenoriaeth fwyaf gennym ni. Wedi’r clo mawr, nid oes syndod o fath yn y byd bod angen cysur a gobaith ar bobl, wrth iddynt frwydro yn erbyn ansicrwydd a diflastod llwyr y cyfnod.
I ganol y sefyllfa hon, daeth TATL Alpha Ar-lein. Gyda chymorth Robert McAvoy sy’n gwirfoddoli ers cryn amser bellach, cychwynnwyd cynnal cyfarfodydd ar y cyd â phobl ifanc gweinidogaeth TATL Penclawdd, hefyd â chyn eglwys Presby Llanelli. Defnyddiwyd gennym gyfres ffilmiau Alpha i Ieuenctid fel sail i’n trafodaethau Zoom. Roedd gennym ystod eang o ran oed, yn ymestyn o 8-16 a bychan oedd y niferoedd; 12 oedd ein nifer sefydlog.
Roedd patrwm ein gweithgareddau yn debyg i’n patrwm blaenorol, ac eithrio ein bod wedi cynnal y sesiwn Alpha ar y cychwyn a’r gemau fideo ar ddiwedd y sesiynau. Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, roeddem yn hynod o ofalus wrth ddilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch yr enwad. Bu SAE Julie Edwards yn gymorth mawr i ni wrth baratoi. Treuliwyd oriau gennym yn pori dros y rheolau er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at lythyren y ddeddf a’n bod mor atebol â phosibl.
Pan ddaethpwyd at y gemau, y broblem fwyaf gennym, oedd sicrhau bod pawb ar-lein yn chwarae’r un gêm ar unwaith, ar eu ‘consolau’ gwahanol ac amrywiol. Diolch byth fod bodolaeth gemau Cross Platform megis: Minecraft, Smite a Padarn, yn caniatáu i ddyfeisiau gemau ryngweithio â’i gilydd. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, sydd yn dileu unrhyw gost ariannol i’r unigolion. Roedd hyn yn hollbwysig, oherwydd mae arian wedi bod yn brin i nifer o deuluoedd yn ystod y cyfnod hwn. Felly, symudwyd y ddau rwystr pennaf i’n chwarae gemau fideo fel grŵp.
Cawsom ein calonogi, yn ogystal, gan y sgwrsio yn ystod y sesiynau hyn. Galluogwyd yr ieuenctid i rannu a holi am faterion a godwyd. Roedd y deunydd trafod bob amser yn addas, hyd yn oed ar gyfer y plant iau; felly roedd modd ymdrin yn briodol ag unrhyw fater sensitif wrth iddo godi. Roedd y deunydd, yn ogystal, yn ddigon heriol i ennyn ymateb gan y bobl ifanc hŷn. Roedd eu clywed yn rhannu eu teimladau a’u meddyliau am yr Iesu a gweddïo hyd yn oed, yn ddigon i gyffwrdd calon. Nid oedd cynnwys y deunydd fideo yn sarhau’r rhai hŷn, er ei fod wedi ei anelu at y rhai iau. Yn ddiweddar gyrrais neges at Jason Ballard – un o’r cyflwynwyr- i ddiolch iddo am ei waith. Fe’m synnwyd gan ateb!
Tua diwedd ein sesiynau ym Mis Gorffennaf, roedd presenoldeb yr ieuenctid yn gostwng. Cafwyd adborth ganddynt yn dangos i ni mai cael eu cau yn y tŷ ynghlwm wrth eu cyfrifiaduron a galwadau eraill megis swyddi neu waith ysgol, oedd yn gyfrifol am hyn. Fodd bynnag, cafwyd seibiant ym Mis Awst, gyda’r bwriad o ail-ddechrau ar ddiwedd y mis. Pan ymunodd y Pch. Timothy Hodgins â ni fel gwirfoddolwr, bu’n gyfle i Roberta gymryd seibiant haeddiannol yn dilyn blwyddyn a hanner o waith TATL di-dor! Yn ogystal, bu’n gyfle i adeiladu dau o’n ffyddloniaid yn eu cerddediad â’r Arglwydd, a’u cynorthwyo yn eu gwaith fel arweinwyr wrth gyflwyno’r gyfres Ffilm Alpha ar gyfer Ieuenctid.
Erbyn hyn, mae ein mynychwyr yn dod o bell ac agos, o Ogledd Cymru a hyd yn oed cyn belled â Lundain. Mae cyfathrebu digidol yn dileu’r broblem pellter sydd rhyngom, sy’n fanteisiol iawn wrth gyflwyno’r sesiynau – a gafodd yr enw newydd – TATL Alpha Ar-lein. Hyderwn y cawn barhau â’r sesiynau hyn pan ddaw’r clo i ben. Yn ogystal, rydym yn postio defosiynau o’r gyfres Action Bible Anytime, gyda’r bwriad o annog yr ieuenctid i ddarllen eu Beiblau ac i holi eu hunain. Synnaf na wnaethom feddwl am hyn ynghynt! Mae Duw wedi bod yn dda yn galluogi ac yn bendithio’r gwaith hwn o’i eiddo!
Er y bydd TATL Alpha Ar-lein yn parhau, ein gobaith i’r dyfodol, yw cael cyfarfod wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn cadw’n pellter yn gymdeithasol; paratoi byrbrydau wedi eu lapio’n unigol; sicrhau mai dim ond un person ar y tro a gaiff ymweld â’r tŷ bach! Heb sôn am hunllef ‘tracio ac olrhain’. Rhaid sicrhau bod yr holl baratoadau hyn yn eu lle yn ddiogel, cyn y gallwn hyd yn oed ystyried cynnal gweithgareddau Ar Daith a’n clybiau arferol eto! Fodd bynnag, edrychaf ymlaen yn eiddgar. Mae llawer wedi nodi eu bod yn colli rhyngweithio personol. Gobeithiwn barhau â’n hymwneud uniongyrchol un i un â phobl a’r Efengyl. Yn bersonol, credaf bod chwarae gemau fideo a bwyta pizza a chymdeithasu yn bwysig iawn bob amser! Does dim i’w gymharu â chlywed pobl ifanc yn holi am yr hyn a glywon nhw am yr Iesu! Dyma yw ein nod! Clywed pobl ifanc yn edifarhau a dewis dilyn yr Iesu yw ein diben pennaf. Mae tystio i hyn yn wirioneddol wefreiddiol.
A thu hwnt i hynny… pwy a ŵyr? Mynd â TATL Gaming World ar daith? Efallai rhyw ddiwrnod… os Duw â’i myn.