Newyddion

Gwahoddwn rhai â diddordeb mewn hybu gwaith Cristnogol ac Eglwysig i ymddiddori yn y swydd o Gynorthwyydd Gweinidogaethol i wasanaethu yng Ngofalaeth Cylch Llandeilo a’r Arfordir.

 

Oriau:              35 awr yr wythnos

Cytundeb:      3 blynedd gyda’r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf

Cyflog:              Graddfa  25-30 (£25,913 – £28,049)  a chyfle i ymuno â

Phensiwn EBC

 

Mae’r Swydd hon yn amodol ar ddatgeliad DBS manwl a dau eirda boddhaol.

 

Mae gofyniad galwedigaethol Cristnogol ac Iaith Gymraeg yn berthnasol ar gyfer y swydd hon.

 

Dyddiad cau: 16:00 Dydd Gwener 12 o Awst ,2022

Rhagwelir y bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar Dydd Gwener 9fed o Medi ,2022

 

Am fwy o wybodaeth, ac am ffurflen gais, cysylltwch gyda:-

e-bost – hedd.morgan@ebcpcw.cymru,

ffôn – 02920 627 465

gan nodi – “Swydd Cynorthwy-ydd Gwenidogaethol, Llandeilo, Myrddin”