Newyddion

Cerdded o Aberdyfi i Bermo – 20 milltir
17/08/18

Adnod y Dydd:

“Fi ydy golau’r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.” Ioan 8:12

Braf iawn oedd cael Cwmni Anna Jane Evans ar y daith am y ddau ddiwrnod cyntaf. Doedd y tywydd ddim o’n plaid, digon llwydaidd ac oer oedd hi, ond fe wnaeth y cwmni i fyny am hynny, a’r stêc a chips ar ôl cyrraedd Bermo!

Rhyfeddod mwya’r diwrnod oedd pasio drwy Llwyngwril a gweld yr holl waith gwau oedd wedi cael ei wneud gan drigolion y pentref, roedd pobman wedi ei orchuddio efo tegannau, anifeiliaid a hyd yn oed cadair wedi ei gwau. Faswn ni ddim yn hoffi meddwl faint o wlân oedd wedi lapio o amgylch y pentref.

Roedd cerdded 20 milltir (ac ychydig bach yn fwy gan ein bod wedi dilyn y llwybyr anghywir am sbel fach jest cyn cyrraedd Bermo) yn dipyn o gampwaith ar ein diwrnod cyntaf o gerdded.

Braf iawn oedd gweld fod yna fath i’w gael yn yr ystafell Gwely a Brecwast.

 

Bermo i Harlech – 18 milltir
18/08/18

Adnod y Dydd:

A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod.  Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. Genesis 1:3,4

Da oedd cael cychwyn llawer iawn cynharach na’r diwrnod cynt. Wedi llond bol o frecwast roeddem yn barod i gychwyn cerdded eto. Cymysgedd o gerdded ar y ffordd ac o gerdded drwy dwynni tywod anferthol oedd heddiw. Clywais lawer yn sôn eu bod yn mynd ar eu gwyliau i “Shell Island” i wersylla yn ystod yr haf. Chlywais i erioed sôn fod pobl yn mynd i Mochras ar eu gwyliau chwaith, er mai’r un lle ydy o!

Penderfynais hefyd nad yw bwyta eich cinio ar ben twyn tywod y peth callaf i’w wneud chwaith. Roedd y tywod ym mhobman, ond yn arbennig yn rhwbio pothell go gas ar fys bach fy nhroed chwith, dyna ni gwers arall wedi ei dysgu!

Roedd y ddwy ohonom yn falch iawn o weld Eleri Roberts yn aros amdanom yn y maes parcio yn Harlech 30 awr ar ôl iddi ein cludo ni i ddal y tren o Borthmadog i Aberdyfi.

(Yn wahanol i’r hyn yr oeddwn wedi ei fwriadu bu raid i mi fynd adra at Mam i Waunfawr ar y pnawn Sadwrn gan fod Dad wedi gorfod mynd i’r Ysbyty efo haint cas  ar y dydd Gwener. Braf oedd cael treulio dwy noson yn Nhan-y-Fron a chael croesawu Dad adref ar y pnawn dydd Sul)

 

Harlech i Gricieth – 18 milltir
20/08/18

Adnod y Dydd:

Mae’r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i; does gen i ofn neb. Mae’r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i, does neb yn fy nychryn. Salm 27:1

A Dad yn gwella a Mam yn falch o’i gael adref, dyma benderfynu parhau ar daith. Gadawsom ein car ym maes parcio gorsaf drennau Cricieth. Cael a chael oedd hi i ddal y tren i Harlech. Huw oedd fy nghwmni ar y daith heddiw. Rhywsut neu’i gilydd pan mae’r ddau ohonom yn cerdded dw i’n mynd yn ddiog i gyd ac yn dibynu’n llwyr arno i ddarllen y map ac i ddweud pa ffordd i’w chymryd. Ond yn waeth na hynny pan mae’r cradur yn gwneud camgymeriad dw i’n gweld bai arno! Wedi cymeryd sawl tro anghywir, ac wedi i mi wrthod dod yn ôl ar y llwybyr cywir gan fod hynny’n golygu mynd trwy gae o wartheg efo Pero’r ci, roeddem o’r diwedd yn gwybod ein bod ar y trywydd cywir gan fod y môr ar y chwith i ni. Cododd yr haul ar Bont Briwet, a channodd y ffôn. Roedd ffrindiau annwyl ers ddyddiau Coleg y Bala yn niwedd y 90au yn mynd i ymuno gyda ni ar y daith ym Morthmadaog.

Does na ddim byd cweit fel cerdded i ddal fyny efo ffrindia. Roedd Bryn a Nia Williams wedi dod a’u cwn hwythau ar y daith hefyd, roedd peth dryswch ar y cychwyn pan oedd y naill neu’r llall yn gweiddi “Pero” a dau gi defaid yn ymateb i’r alwad. Buan y blinodd y tri ar draeth llydan Morfa Bychan wrth redeg ar ôl pêl.

Wedi cyrraedd Cricieth roedd criw teledu Newyddion 9 S4C yn disgwyl amdanf i wneud cyfweliad ynglÿn â’r defnydd o’r Gymraeg mewn carchardai, ac i ymateb i’r ystadegau brawychus oedd wedi cael eu rhyddhau ynglyn â faint o droseddwyr o Gymru oedd yn cael eu carcharu yn Lloegr.

Doeddwn i dim wedi gwisgo’n briodol i gyfweliad teledu, ond digon addas i orffen diwrnod arbennig dros bryd a phanad o ‘Fish a Chips’ gorau Gogledd Cymru.

 

Cricieth i Abersoch – 23 milltir
22/08/18

Adnod y Dydd:

Ti ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd; dy olau di sy’n rhoi’r gallu i ni weld. Salm 36:9

Heb os hwn oedd y diwrnod anodda hyd yma. Sant Augustine o Hippo ddywedodd mewn Lladin: ‘Solvitur ambulando’, sy’n golygu ‘Datrusir trwy gerdded’. Hwn oedd y cyfle cyntaf a gefais i gerdded ar fy mhen fy hun, ac felly y cyfle cyntaf i encilio ac i weddio a chanu mawl yn dawel. Yn rhyfeddol mwynheais y profiad yn fawr. Os faswn i yn cael nodi’r llwybyr, faswn i ddim yn awgrymu y dylai neb gerdded ar y cerrig mân a’r tywod ar draeth Abererch. Sôn am lafurus a phoenus ar gluniau! “Wela ni chdi yng nghaffi y ‘Tin tiwna’ (Plas Heli) oedd neges Bryn a Nia. Yn rhyfeddol newidiodd y tywydd ym Mhwllheli a chafwyd taith ddifir ac amrywiol o Bwllheli, heibio Llanbedrog ac Oriel Glyn-y-Weddw. Yna dros Fynydd Tir y Cwmwd a chyrraedd Abersoch fel yr oedd hi’n tywyllu. Roedd croeso arbennig yn fy nisgwyl gan ffrindiau o’r Wyddgrug sydd a’u gwreiddiau yn Abersoch. Owain, un or degau o blant a fedyddiais ers i ni gyrraedd yma yn yr Wyddgrug, a’i Fam Ffion a’i Nain Lowri. Yn ystod angladd ei hen Nain yr ymwelais â’r Gragen cyn hynny, a bore priodas Ffion a Rhys ei dad cyn hynny. Roedd heno yn ddigwyddiad hapus, ac er gwaetha’ blinder wedi cerdded 23 milltir dros fynydd a man gerrig arhosais ar fy nhraed yn sgwrsio gyda Ffion tan berfeddion bore. Roedd gen i lawer i fod yn ddiolchgar amdano, ond diolchais i Dduw yn arbennig am ffrindiau da.