Newyddion

Yn ddyddiol yn Eglwys St Catherine’s:

Panad a theisen gri rhwng 11.30yb a 5.30yp

Gweithgareddau i blant a diod oer a bisgedi

Oedfa ddyddiol am 1.00yp (Llun i Sadwrn)

Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg rhwng 1.00yp a 2.00yp

Cornel ddistaw a lle i fyfyrio

Cyfle i helpu Cymorth Cristnogol ymgyrchu ar dlodi a chyfiawnder

Cais i arwyddo cerdyn post newid hinsawdd i’ch Aelod Seneddol

Arddangosfa ‘Beibl mewn gwlân’ Byddin yr Iachawdwriaeth

Pererindod cregyn o faes yr Eisteddfod i’r Eglwys

Arddangosfa o 7 gosodiad blodau

Cyfle i edmygu 6 ffenest liw yn olrhain hanes Cristnogaeth Cymru

Detholiad o lyfrau ac adnoddau Cristnogol ar werth

Gwasanaeth gwefru ffonau symudol

 

Arddangosfeydd gan yr enwadau Cristnogol yng Nghymru a hefyd:

Cytûn

Cymdeithas y Beibl

Cymorth Cristnogol

Cyngor Ysgolion Sul

Home for Good

Cynllun Eco Church A Rocha

Cofleidio’r Dwyrain Canol

Byddin yr Iachawdwriaeth

Cymdeithas y Cymod

Coleg Bedyddwyr Caerdydd

Athrofa Padarn Sant

Newyddion da i bawb

Cyngor Rhyngffydd Cymru

Undeb y Mamau – ‘Tu ôl i ddrysau caeedig’

National Churches Trust

Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant

 

Arddangosfeydd Blodau – 7 gosodiad wedi’u trefnu gan:

Cymdeithas y Beibl

St David’s Uniting Church

Eglwys St Catherine’s – Gardd y Pasg

Byddin yr Iachawdwriaeth

Eglwys Temple Baptist

Undeb y Mamau

Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

 

Dydd Sadwrn 03/08/24

Lluniaeth 11.30yb – 5.30yp

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Peggy Howells, Richard a Felicity, Carwyn ac Alicia Arthur

St Catherine’s am 1.00 – myfyrdod a sgwrs gan Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Cytûn, sef Cynan Llwyd.

Pabell Encore, 2.15yp: Cân i godi calon, sesiwn gyda Siân Meinir, Elain Rhys a Ffrindiau Dementia Rhondda Cynon Tâf

Y Babell Lên, 3.00yp: Mae Sŵn yr ymladd yn ein clyw, wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cymod

YMa, 3.00yp: Gaeaf yn troi’n haf, drama gan Denzil John

 

Dydd Sul 04/08/24

Lluniaeth 12.15yp – 5.30yp

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Richard a Felicity, Jennie Hurd

Pafiliwn, 9.00yb: Oedfa’r Eisteddfod, dan ofal Geraint Rees ac eraill. Noder bod angen tocyn maes i fynychu’r oedfa

Eglwys St Catherine’s, 11.00 am: Gwasanaeth y Sul

Pabell Encore, 1.00yp: Mawl y Cymoedd, cyfle i glywed emynau lleol yng nghwmni Pedwarawd C.O.R.

Pafiliwn, 8.00yh: Cymanfa Ganu, Arweinydd Wil Morus Jones, Organydd Jeffrey Howard, Rhannau arweiniol Rosa Hunt

 

Dydd Llun 05/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Tabernacl, Efail Isaf (Eleri Haf)

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Angor Grangetown (Cynan Llwyd)

Eglwys St Catherine’s 1.30yp: Lansiad llyfr Byw’r Weddi, addasiad Gwilym Wyn Roberts o gyfrol Trystan Owain Hughes

Eglwys St Catherine’s, 2.00yp: Datganiad gan Sioned Webb a Salih Hassan

Pafiliwn, 3.25yp: Lansio Gwobr Goffa R Alun Evans

Pabell Cymdeithasau 1, 4.00yp: Pwy yw’r Crynwyr? O ddoe hyd heddiw.

 

Dydd Mawrth 06/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Undeb y Mamau (Helen Williams)

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal y Bedyddwyr (Rosa Hunt)

Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Lansio cylchgrawn Gobaith, dan ofal Newyddion Da i Bawb

Eglwys St Catherine’s, 1.45yp – Cyflwyniad i’r cylchgrawn cyd-enwadol Cristion, gan Sian Elion, un o’r golygyddion newydd

Y Babell Lên, 12.30yp: Ar Drywydd Brynley Roberts, gyda Gwerfyl Pierce Jones, Robert Rhys a Rhidian Griffiths

Maes D, 2.30yp: Dwylo dros y môr, sgwrs gan Rosa Hunt ymhlith eraill

Pabell Cymdeithasau 1, 11.00yb: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan, darlith gan yr Athro D Densil Morgan

Pabell Cymdeithasau 1, 2.00yp: Ffynhonnau Morgannwg, sgwrs gan Howard Huws

Pabell Cymdeithasau 2, 12.30yp, Canrif o Hawliau Plant – Achub y Plant, sgwrs gan Eurgain Haf

 

Dydd Mercher 07/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: St Catherine’s Pontypridd ac Esgobaeth Llandaf (Charlotte Rushton)

Eglwys St Catherine’s – Gwasanaeth Cymun Bendigaid, o dan ofal Esgob Llandâf, Mary Stallard ac eraill

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Sound of Wales ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Cyflwyno cyfrol Gair Duw ar Lafar Gwlad, gan Dewi Arwel Hughes

Eglwys St Catherine’s, 1.45yp: Lansiad Llyfr Lliwio Beibl Bach Stori Duw, gyda stori i blant

Eglwys St Catherine’s, 2.00yp: Sesiwn y Cwestiwn Mawr, o dan nawdd Athrofa Padarn Sant a Choleg y Bedyddwyr Caerdydd. Beth fyddech chi’n holi Duw? Byddwn yn gofyn…

Pabell Cymdeithasau 1, 12.00yp: A oes heddwch? Sesiwn dan ofal Cymdeithas y Cymod

Pabell Cymdeithasau 1, 5.00yp: Cofio Richard Price, Apostol Rhyddid, yr Athro Huw Williams

Pabell Cymdeithasau 2, 10.30yb, Caniadaeth y Cysegr yn 75 oed, cyflwyniad gan Gymdeithas Emynau Cymru

Pabell Cymdeithasau 2, 1.30yp, Agweddau ar y Bardd a’r Offeriad R S Thomas, sgwrs gan Jon Gower, Clare Potter, ac M Wynn Thomas

Eglwys Temple Baptist Pontypridd, 7.00yh: Noson i gofio cyfraniad arbennig Dewi Arwel Hughes ac i lansio ei gyfrol Gair Duw ar Lafar Gwlad, wedi’i olygu gan Christine James ac E Wyn James

 

Dydd Iau 08/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Byddin yr Iachawdwriaeth (Kathryn Stowers)

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Byddin yr Iachawdwriaeth

Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Hawlio Heddwch, sgwrs

Eglwys St Catherine’s, 1.45yp: Llwybr Pererindod Penrhys, sgwrs gan Dyfrig Lloyd

Pafiliwn, 11.50yb: Cystadleuaeth Llefaru o’r Ysgrythur (agored)

Pafiliwn, 12.05yp, Cystadleuaeth Canu Emyn

Y Babell Lên, 9.00yb: Cystadleuaeth Llefaru o’r Ysgrythur (agored)

Y Babell Lên, 11.30yb: Darlith Goffa Hywel Teifi – O’r Rhondda i Canaan, traddodir gan Daniel G Williams

Pabell Encore, 9yb: Cystadleuaeth Canu Emyn

Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 12.30yp: Sgwrs ar Archwilio’r Argyfwng Hinsawdd

Eglwys Dyfrig Sant Trefforest, 6.00yh: Offeren yr Eisteddfod, dan ofal yr Esgob Edwin Regan

 

Dydd Gwener 09/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Eglwysi Caerffili (Eirian Dafydd)

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Meilyr Rees, Eglwys Coedpenmaen

Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Cynllun Eco Eglwys A Rocha, sesiwn gan Delyth Higgins

Cymdeithasau 1, 3.00yp: Lansio Gofal ein Gwinllan Cyfrol 2 yr Eglwys yng Nghymru

 

Dydd Sadwrn 10/08/24

Cegin dan ofal Tim a Helen Williams

Gwirfoddolwyr: Richard a Felicity, Sian Elin Thomas

Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Dyfrig Lloyd a’r Eglwys yng Nghymru.

Y Babell Lên, 4.30yp: Lleuwen Steffan gyda Band Tafod Arian yn edrych ar hen emynau a phregethau rhyfeddol

Pabell Encore, 12.00yp: Cystadleuaeth Emyn Dôn i eiriau Gwynfor Dafydd