Newyddion

Annwyl ffrindiau yn yr enwadau

Mae Wythnos Cymorth Cristnogol bron yma! A medrwch chi plîs ymuno â ni dros y 3 wythnos nesaf trwy rannu negeseuon am Wythnos Cymorth Cristnogol a’r holl storïau o obaith sydd ynghlwm â hi?

Wythnos Cymorth Cristnogol – 10-16 Mai 2026 

Mae eglwysi ac ysgolion ar draws Cymru eisoes wedi bod yn paratoi, archebu adnoddau, trefn digwyddiadau, oedfaon a heriau codi arian. Dyma fi wedi penderfynu wythnos yma i gwneud yr her 70k ym mis Mai gyda’r teulu (rannu hwn fel enghraifft o’r E-amlen newydd ac fel ysbrydoliaeth…)

Mae’r Wythnos eleni yn foment arwyddocaol, jyst dyddiau ar ôl Etholiad Senedd Cymru. Mae’n foment pwysig i ni yng Nghymru i rannu gyda’n cymunedau a’n gwleidyddion newydd am y gobaith sydd gennym a’r galwad ar ein bywydau i weithredu’n ffyddlon dros gyfiawnder a dros ddiwedd ar dlodi. Yn ystod yr Wythnos fe welwn filoedd o weithredoedd gobeithiol gan wirfoddolwyr, eglwysi, ysgolion, cymunedau, teuluoedd ac unigolion sydd yn dewis rhoi eu ffydd ar waith – cerdded, rhedeg, pobi, dawnsio, sgipio, gwneud yr hyn sydd angen – oll er mwyn gwireddu newid parhaol. Mae’n foment o ffydd a gweithred sydd yn helpu teuluoedd i oroesi tlodi a thrais,  ac yn cefnogi cymunedau i ailadeiladu ar ôl trychineb.

Mae’r ymgyrch eleni yn rhoi ffocws i dlodi trefol ac effaith dwys dyled fyd-eang. Rydym yn rhannu storiâu o Nairobi yn Kenya lle mae teuluoedd yn tyfu ffrwythau a llysiau ym mannau cyfyng, o strydoedd cul i ar ben y to. Mae’r arloesi tu nol i’r prosiect garddio trefol yn golygu bod rhieni yn gallu rhoi bwyd maethlon ar gyfer eu teuluoedd, yn ogystal â gwerthu cynnyrch ac arbed arian i hala eu plant i’r ysgol.

Fe garwn estyn annogaeth i gymaint o eglwysi yng Nghymru i wneud rhywbeth Wythnos Cymorth Cristnogol yma, bach neu fawr. Mae pob gweithred fel hedyn mwstard, yn gwneud byd o wahaniaeth.

Adnoddau cyfathrebu

Wedi safio yn y Google Drive yma mai amryw o adnoddau cyfathrebu – stori Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, lluniau, ffilmiau, postiadau cyfryngau cymdeithasol ayb: CAW26 WCC26 Cymru 2026 – Google Drive

Isod y mai ambell i neges gyda syniadau ymarferol i eglwysi sydd efallai heb meddwl gwneud rywbeth eto; a rhai syniadau i chi fel staff yn yr enwadau/swyddfeydd hefyd.

A wnewch chi hefyd plîs rannu postiadau Cymorth Cristnogol Cymru ar Facebook stories ayb:

Defnyddiwch yr hashnodau #CAWeek26 #DileuTlodi

A tagiwch ni ar Facebook: @ChristianAidCymru

Wythnos Cymorth Cristnogol 10-16 Mai 

Ffydd ar waith. Fel hedyn mwstard.

7 diwrnod i neud gwahaniaeth – be wnewch chi?

Dyma dri cham syml i gymryd rhan yn Wythnos Cymorth Cristnogol fel teulu eglwys eleni:

  1. Creu E-Amlen a chynnal casgliad.

  2. Ymunwch mewn gweddi a rannwch storiâu o obaith o Kenya ar ddydd Sul 10 Mai a Sul 17 Mai – gan ddefnyddio’r drefn gwasanaeth dwyieithog, trafodaeth pob-oed ac adnoddau plant sydd ar gael i lawr lwytho.

  3. Cynnwys Wythnos Cymorth Cristnogol yn eich boreau coffi a chyfarfodydd rheolaidd ym mis Mai, gan fanteisio ar y poster dwyieithog i hyrwyddo eich cynlluniau.

https://caw.christianaid.org.uk/

Be fedrwch chi wneud fel tîm enwadol/yn y swyddfa Wythnos Cymorth Cristnogol yma?

  • Creu E-amlen (mae’r amlen goch enwog yn ddigidol!)  gellir ei addasu a’i rannu’n hawdd dros What’s App ayb, ac mae’n cynnwys baner ddwyieithog.

  • Ymunwch â’r her 70k ym mis Mai fel eglwys neu dîm – mae cryfder mewn niferoedd!

  • Cynnal amser coffi a cwis yn y swyddfa – te a choffi Masnach Deg o Kenya, efallai?

  • Gwisgwch coch yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol – rannwch luniau gyda ni! Wythnos Cymorth Cristnogol

https://caw.christianaid.org.uk/