Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno gyda tîm Cymorth Cristnogol Cymru ar gyfer cyfarfodydd foreol arbennig ym mis Mawrth – 17 Mawrth ym Mhenarth & 18 Mawrth yn Wrecsam – pan fyddwn yn cyflwyno gwaith ein partner, Beacon of Hope o Kenya.
Cawn glywed gan Janet Ngombale, Rheolwr Rhaglen a Phartneriaeth Cymorth Cristnogol yn Kenya; a gan Jane Wathome, bu sefydlu Beacon of Hope, partner Cymorth Cristnogol yn Nairobi fydd dan sylw yn ymgyrch Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, 10-17 Mai.
Bydd apêl Wythnos Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar brofiad mamau sy’n gaeth mewn brwydr ddyddiol i fwydo eu plant llwglyd, gan fod yr argyfwng hinsawdd yn amharu ar gyflenwadau bwyd ac yn golygu bod prisiau bwyd yn cynyddu ac yn rhy ddrud ar gyfer nifer helaeth o deuluoedd. Trwy fenter ysbrydoledig, Imarisha Kilimo (‘cryfhau amaethyddiaeth’ yn Swahili), rydym yn helpu teuluoedd i adeiladu bywoliaethau cynaliadwy ac i dyfu bwyd maethlon i fynd i’r afael â straen di-baid tlodi trefol.
Ymunwch â ni am fore amhrisiadwy o gymdeithasu a straeon ysbrydoledig gyda Janet a Jane yn ystod eu ymweliad byr i Gymru. Cawn gyfle i rannu cipolwg ar y gwaith dyngarol yn fyd-eang a’n ymgyrchoedd presennol, i rannu syniadau codi arian creadigol, a dysgu sut, gyda’n gilydd, y fedrwn wneud gwahaniaeth parhaol yn y ymdrech yn erbyn tlodi.