Newyddion

Scripture Union Cymru.
Eleni, mae gan Scripture Union nifer o adnoddau gwahanol y gellir eu defnyddio yn ystod yr Ŵyl.

Ar Drywydd y Nadolig.

Hwn yw ein prif adnodd Nadolig. Mae’n bleser gennym ei rannu. Cyfres o 5 Côd QR yw ’Ar Drywydd y Nadolig.’ Gall eglwys ddefnyddio’r adnodd yn y gymuned, yr eglwys, neu’r ysgol leol- os yw rheola’r Llywodraeth yn caniatau hynny- trwy guddio’r 5 Côd QR hwnt ac yma yn y gymuned, o gwmpas adeilad yr eglwys neu’r ysgol. Cyflwyniad i’r adnodd yw’r fideo cyntaf, yn esbonio i’r chwareuwyr, bod rhaid iddynt fynd i chwilio am y Côdau QR, a gwylio pob fideo. Ymhob fideo, mae cliw ar ffurf llythyren. O’u gosod at ei gilydd, mae’r llythrennau’n sillafu enw ‘Duw.’  Mae angen y gair hwn er mwyn datgloi’r fideo olaf. Caiff gwir ystyr y Nadolig ei esbonio yn y fideo hwn.

Ynghlwm â phob fideo, mae PDF rhad ac am ddim y gellir ei lawr-lwytho, sy’n awgrymu ffyrdd i gyflwyno ac hysbysebu’r gweithgaredd, yn ogystal â ffyrdd i’w ddefnyddio mewn amrywiol cyd-destunau.

Mae hwn ar gael yn y Saesneg hefyd.
https://content.scriptureunion.org.uk/in-search-of-christmas

 Ddaeth Duw Yn Debyg i fi.

Ein llyfryn Nadolig yw hwn, sy’n cyflwyno stori’r Nadolig ar ffurf pennillion sy’n odli.

‘Fe ddaeth Duw yn berson tebyg i fi?’ ‘Yn ddyn go iawn?’ ‘Dych chi’n siwr?’ ‘Ydwyf!’ ‘Ond pam?’

Oeddet ti’n gwybod mae holl bwrpas y Nadolig yw dathlu bod Duw- y Nadolig cyntaf hwnnw miloedd o flynyddoedd yn ôl – wedi dod i’r byd yn ddyn, tebyg i ni. Os wyt am ddarganfod beth a ddigwyddod, rhaid i ti fynd yn ôl i’r dechrau!

https://content.scriptureunion.org.uk/resource/ac-fe-ddaeth-duw-fel-fi

Gadael Adnoddau’r Clo.

Trwy gydol y cyfnod clo, rydym wedi cynhyrchu’n gyson, ddeunydd fideo ar gyfer plant a phobl ifanc y gellir eu defnyddio gan eglwysi neu glybiau. Rydym wedi creu deunyddiau o gynnwys tymhorol. Byddwch yn graff a gwyliwch ein sianel youtube am fideos Adfent a Nadolig.

https://www.youtube.com/c/SUEnglandandWales/featured