Elusen yw Cymorth Cristnogol sy’n bodoli i hybu Teyrnas Dduw trwy weithio’n ymarferol i ddileu tlodi yn rhai o wledydd tlotaf y byd a thrwy ymgyrchu yn erbyn y systemau a’r grymoedd sy wedi creu’r tlodi hwnnw yn y lle cyntaf.
Mae Apêl y Nadolig eleni yn edrych ar Ethiopia ac yn dweud stori Kawite, sydd a’i bywyd wedi ei drawsnewid trwy adeiladu pwll yn ymyl ei phentref. Mae newid hinsawdd wedi effeithio’r glawogydd yn y rhanbarth ac fel merched eraill, roedd yn rhaid i Kawite gerdded pum awr pob bore i gario dŵr adref. Mae bywyd Kawite wedi newid yn sylweddol wedi i’w chymuned adeiladu’r pwll gyda chefnogaeth partner Cymorth Cristnogol.
Mae newid hinsawdd yn effeithio fwyaf y bobl hynny sydd wedi gwneud y lleiaf i’w greu – y tlotaf yn ein byd. Trwy gefnogi apêl eleni, byddwch yn helpu cymunedau eraill tebyg i un Kawite, wrth iddynt ymdrechu gyda’r effeithiau hynny.
Mae nifer o adnoddau ar gael i’ch helpu chi a’ch eglwys i ddathlu’r Nadolig a chael Cymorth Cristnogol fel ffocws elusennol. O daflen weddi Adfent, i bregeth ar fidio, a charol Adfent newydd sbon yn y Gymraeg – mae trysor o adnoddau ar gael ar y wefan yn y Gymraeg a’r Saesneg. https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christmas-appeal/resources