Perfformio’r Daith gan y Gydweithfa Casi-Cymru
Mae Perfformio’r Daith yn berfformiad a seilir ar straeon gwerin Casi a llythyron gan genhadon Cymreig, ac yn cyfuno’r rhain gyda cherddoriaeth Casi a Chymreig a barddoniaeth gan y bardd Casi, Esther Syiem. Plethir yr elfennau hyn ynghyd mewn cyflwyniad aml-haenog sy’n trafod hanes y gyfnewidfa ddiwylliannol ryngom – cyfnewidfa a seilir ar Genhadaeth Dramor y Methodisiaid Calfinaidd Cymreig ym ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969.
Mae’r perfformiad yn 50 munud o hyd, a chynhelir trafodaeth fer (tua 15 munud o hyd) ar y diwedd.
Mae arddangosfa syml yn teithio gyda’r perfformiad, a gellir gosod y baneri hyn yn yr un ystafell a’r perfformiad. Mae’r arddangosfa yn rhannu hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Casia-Jaiñtia ac yn cyflwyno agweddau ar ddiwylliant y bobl Casi. Cyfansoddir yr arddangosfa gan bobl o Fryniau Casia a Chymru.
Mae aelodau’r Gydweithfa Casi-Cymru yn artistiaid o Gymru ac India. Ffurfiodd y grŵp ar sail prosiect ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru a North Eastern Hill University (Meghalaya), sef ‘Trafodion Diwylliannol Cymreig a Chasi’, a noddwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys yr actorion Lapdiang Syiem o Fryniau Casia-Jaiñtia a Rhys ap Trefor o Gymru; y cerddorion Gareth Bonello o Gymru a Benedict Hynñiewta o Fryniau Casia-Jaiñtia; y gwneuthurwr ffilm Aparna Sharma o India a’r cyfarwyddwr theatr Lisa Lewis o Gymru. Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda’r beirdd Casi Desmond Kharmawphlang ac Esther Syiem.
I lawrlwytho poster hyrwyddo cliciwch yma
Perfformio’r Daith Chwefror 2020 from EBCPCW on Vimeo.
Perfformio’r Daith India Cymru from EBCPCW on Vimeo.
Adolygiadau:
‘Roedd yn teimlo fel mynd ar fordaith drwy fyd newydd . . . Roedd eiliadau cofiadwy i mi’n cynnwys disgrifiad hardd corfforol a geiriol Rhys ap Trefor o adeiladu capel newydd ym Mryniau Casia, a Lapdiang Syiem yn adrodd cerdd ingol am golli plentyn. Yn gefndir i’r hyn oll roedd yr alawon a chwarewyd gan Gareth Bonello, alawon a oedd yn gyfarwydd ac yn anghyfarwydd ar yr un pryd – ymgais arall i bontio’r diwylliannau, y tro yma trwy gân.’ – Aelod o’r gynulleidfa, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
‘Performing Journeys is a performance that speaks of that which is betwixt and between. Within its haunting re-imagining, it gathers voices and images that are trapped in the liminal tract of past and present, colonial and postcolonial, the oral and the script, the symbolic and the literal, movement and stillness, the heart and the mind, light and darkness. The play does not answer, it provokes. It does not lead one by the hand, it challenges. It begins where it ends as two of its audience members walk out and unravel its meaning along the length of the road. Through its own journey, Performing Journeys parts that foreboding sea to set free these precious stories.’ Aelod o’r gynulleidfa, Khasi National Dorbar Hall, Shillong, India.
Review, The Shillong Times:
http://theshillongtimes.com/2019/04/24/dialogue-across-borders-stunning-theatre-performance/