Mae Eglwys y Cysegr wedi ei lleoli ym mhentref Bethel, Arfon, ac yn rhan o Ofalaeth Glannau'r Saint. Cynhelir oedfa bob bore Sul am 10yb gydag ysgol Sul i'r plant yn y festri yn dilyn y gwasanaeth dechreuol. Defnyddir yr adeiladau yn rheolaidd i gyfarfodydd Clwb Bro Bethel, Cymdeithas Lenyddol Undebol, Cangen Merched y Wawr, Cylch Ti a Fi a phwyllgorau gwahanol fudiadau yn y pentref.
Darllen mwy