Mae eglwys Penbryn ymysg y mwyaf modern ac addas fel addoldy a chanolfan amlbwrpas i'r gymdeithas ac i aelodau Eglwysi Bro Treffynnon. Braf yw cyd-addoli mewn capel sy'n ysgafn, clud a golau - addurniaeth minimalist pia hi! Cynhelir gwasanaethau ar y Sul ynghyd ag ysgol Sul am 11:15yb, yn ogystal â Chlwb Plant (cynradd) ar nos Fawrth. Hefyd ceir amrywiaeth o weithgareddau eraill, a defnyddir yr adeilad yn helaeth 24/7 gan y gymuned hefyd megis Cymdeithas Thomas Peunant, Mamau a babanod a Cymdeithas y chwiorydd, 'Y gymdeithas' - achlysurol.
Darllen mwy