Taith Noddedig y Llywydd Donate
Fel y gwyddoch, bob pum mlynedd, mae gan EBC Apêl mewn partneriaeth â Chymorth Cristnogol. Eleni mae Apêl ‘Hadau Gobaith’ yn codi arian ar gyfer problemau Newid Hinsawdd yn Kenya.
Fel rhan o’r Apêl hon, mae Evan fel Llywydd, yn bwriadu codi arian drwy gerdded 70km. Ei fwriad yw ymweld â phob un o’n 14 Henaduriaeth a cherdded 5km ym mhob Henaduriaeth, gan wneud cyfanswm o 70km.
Yn ogystal â gobeithio codi rhywfaint o arian tuag at yr Apêl, mae hefyd am godi ymwybyddiaeth o’r Apêl ar draws y Cyfundeb a chwrdd ag aelodau’r enwad. Gobeithio bydd yna aelodau fydd yn cerdded 5km gydag ef!

Adnoddau’r Daith