Eglwys Bresbyteraidd Cymru – The Presbyterian Church of Wales (EBCPCW)
Telerau ac Amodau
Diweddarwyd y polisi hwn ar y 5ed o Fawrth 2025
Darllenwch y telerau a’r amodau hyn cyn defnyddio ein gwefan neu ap os gwelwch yn dda. Os nad ydych yn dymuno cael eich rhwymo gan y telerau a’r amodau hyn, rhaid ichi beidio defnyddio’r wefan na’r ap.
Gall y telerau a’r amodau hyn gael eu diwygio o bryd i’w gilydd, ac mae pob newid yn effeithiol o’r dydd y gosodir y diweddariad ar y wefan.
Gweithgaredd a Waherddir
Cewch ond defnyddio’r wefan neu’r ap i bwrpasau cyfreithiol, ac yr ydych yn cytuno i beidio defnyddio’r wefan a’r ap:
- mewn unrhyw ffordd lle bwriedir achosi niwed
- i drosglwyddo neu i gaffael anfon unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hybu, gan gynnwys sbam neu lithiad tebyg
- mewn unrhyw ffordd sy’n tramgwyddo cyfreithiau neu reoliadau sy’n gymwys yn lleol neu yn rhyngwladol.
Yr ydych hefyd yn cytuno i beidio defnyddio unrhyw robot, copyn neu ddyfais awtomataidd neu broses arall, nac i gyflwyno unrhyw feirws, feirws Ceffyl Pren Troea, mwydyn, bomiau rhesymeg, neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu yn gwneud drwg yn dechnolegol.
Hawliau Eiddo Deallusol
Mae cynnwys penodol ar ein gwefan ac ap yn cael ei warchod gan hawliau eiddo deallusol. O ganlyniad, os nad yw’n cael ei ganiatáu’n benodol gan EBCPCW, rhaid ichi beidio tramgwyddo unrhyw hawliau eiddo deallusol ar y wefan neu’r ap. Os credwch fod unrhyw wybodaeth ar y wefan neu’r ap yn tramgwyddo eich hawliau, cysylltwch â ni yn syth.
Adnoddau a thempledi
Mae ein hadnoddau a’n templedi a gwybodaeth arall ar y wefan a’r ap wedi eu bwriadu er budd y Cyfundeb yn unig. Nid ydym yn cynnal nac yn gwarantu fod adnoddau a thempledi ar ein gwefan ac ap yn gywir, yn gyflawn, nac yn gyfredol.
Atebolrwydd
Does dim yn y telerau a’r amodau hyn yn cyfyngu nac yn eithrio ein hatebolrwydd o ran:
- marwolaeth neu anaf personol achoswyd gan ein hesgeulustod;
- twyll, neu gamliwiad twyllodrus; neu
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei gyfyngu neu ei eithrio gan gyfraith berthnasol.
I’r graddau ac y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr o dan neu mewn perthynas â’r defnydd, neu’r anallu i ddefnyddio’r wefan neu’r ap, neu’r defnydd neu ddibynadwyaeth ar unrhyw gynnwys sy’n cael ei arddangos ar y wefan neu’r ap (prun ai mewn cytundeb, y gyfraith gamweddau (gan gynnwys esgeulustod), oherwydd tramgwyddo dyletswydd statudol, neu fel arall) am:
- unrhyw golled o ran elw;
- unrhyw golled o ran gwerthiant neu fusnes;
- unrhyw golled o ran cytundebau neu gontractau;
- unrhyw golled o arbedion a ragwelir;
- unrhyw golled neu ddifrod i ewyllys da;
- unrhyw golled neu ddifrod i enw da;
- unrhyw golli defnydd neu lygru meddalwedd, data neu wybodaeth; neu
- unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Feirwsau a bygiau
Nid ydym yn gwarantu fod ein gwefan neu ap yn ddiogel rhag feirwsau neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu yn gwneud drwg technolegol.
Cyfraith lywodraethol
Mae’r telerau ac amodau hyn, ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
Awdurdodaeth
Y mae pob parti yn cytuno i ymrwymo’n ddi-droi’n-ôl y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth benodol i ddod i benderfyniad ar unrhyw anghydfod neu hawl sy’n deillio o, neu sydd mewn perthynas â’r telerau ac amodau hyn.
Cysylltwch â ni
Mae’r wefan a’r ap yma yn cael eu cynnal gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru – The Presbyterian Church of Wales, Capel y Tabernacl, 81, Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1DD; Ffôn 02920 627465; e-bost swyddfa.office@ebcpcw.cymru