Shop

Y Traethodydd: July 2024 issue

£6.00

Description

Rhifyn Gorffennaf 2024 o’r Traethodydd

Bywyd a gwaith Llewelyn Lewellin, prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yw testun prif erthygl rhifyn Gorffennaf o’r Traethodydd, a’i hawdur yw’r Gwir Barchedig J. Wyn Evans, cyn esgob Tyddewi a chyn ddeon y gadeirlan yno. Yn ogystal ȃ bod yn bennaeth y coleg bu Lewellin – a fel ’na y sillafodd ei enw – hefyd, ar yr un pryd, yn ddeon Tyddewi ac yn ficer plwyf Llanbed Pont Steffan. Erthygl ddifyr ydyw gan feistr ar ei bwnc. Er i’r prifathro gael eu farnu’n hallt gan rai o’i gyfoeswyr ac eraill a ddaeth ar ei ôl, mae Wyn Evans yn mynnu bod cryn dipyn i’w ddweud o’i blaid. Traethwyd y ddarlith sy’n sail i’r erthygl fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y seicolegydd Cristnogol Gaius Davies, awdur y gyfrol boblogaidd Genius and Grace ac amryw o lyfrau eraill, yw pwnc ysgrif John Emyr, y bardd a’r llenor o Gaerdydd. Wrth dalu teyrnged i un a fu’n gyfaill teuluol iddo ef a’i rieni, mae’n olrhain ei yrfa o’i blentyndod ym mhentref glofaol Pen-y-groes, Sir Gâr, yn nhridegau’r ganrif o’r blaen, i flynyddoedd ei hyfforddiant meddygol yn Ysbyty Sant Bartholomew, Llundain, ei amser fel meddyg teulu yng Nghonwy yn y 1960au, a’i ddychwelyd i Lundain er mwyn ailhyfforddi fel seicolegydd yn Ysbyty Maudsley ac yn y brifysgol yno. Er yn feddyg ac yn seicolegydd proffesiynol, mawr oedd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth, hanes a’r celfyddydau yn gyffredinol, ac er iddo fyw yn Llundain am weddill ei oes, parhaodd i gyfrannu at y diwylliant Cymraeg fel darlledwr a sylwebydd cyson ar ei faes.

Mae Rowland Wynne yn parhau gyda’r ail ysgrif yn ei gyfres ar wyddonwyr o Gymru, a Joan Strothers, ‘yr arbrofwr digymar’, yw’r pwnc y tro hwn. Yn ferch o Abertawe a astudiodd ym Mhrifysgol Caer-grawnt, gwnaeth gyfraniad mawr ym maes ffiseg, ac fel E. G. Bowen, y gwyddonydd y soniwyd amdano yn rhifyn flaenorol Y Traethodydd, radar oedd ei harbenigrwydd mawr. Beth bynnag am ei chyfraniad neilltuol yn y byd gwyddonol, gwnaeth hynny fel merch. ‘Person arbennig felly’, meddai Rowland Wynne, ‘ond uwchlaw hyn, un a oresgynnodd ragfarn y cyfnod yn erbyn merched’. Da, felly, yw cael gwybod amdani hi.

Does dim amheuaeth mai un o gyfraniadau mwyaf i grefydd Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn yw beibl.net, cyfieithiad arloesol y Dr Arfon Jones o’r Beibl mewn ieithwedd gyfoes. Mewn dadansoddiad gwybodus, mae Iwan Rhys Jones, yntau’n ysgolhaig beiblaidd, yn tafoli’r dulliau cyfieithu a defnyddiwyd wrth lunio’r gwaith hwn gan roi golwg hefyd ar dechneg cyfieithu

yn gyffredinol. Yn ôl un adolygydd cynnar, ‘chwithig’ yw Cymraeg y cyfieithiad hwn. Nid felly yw barn pawb, a does dim amheuaeth fod y gwaith wedi ennill ei le mwyach ymhlith yr ieuenctid yn arbennig. Darllenwch yr ysgrif hon i wybod mwy amdano.

Ceir pedwar adolygiad y tro hwn: Rhianedd Jewell o Brifysgol Aberystwyth sy’n gwerthfawrogi astudiaeth Angharad Price, Gororion: Llên Cymru yng Nghyfandir Ewrop; Gareth Evans-Jones, yr ysgolhaig amryddawn o Brifysgol Bangor sy’n tafoli Dros Gyfiawnder a Rhyddid: Y Cambrian Guards a Rhyfel Cartref America, cyfraniad diweddaraf ei gyd-Fangoraid Gerry Hunter at ein gwybodaeth am Gymry yr Unol Daleithiau; M. Wynn Thomas sy’n trafod hynodrwydd barddoniaeth Aled Jones Williams ac yn esbonio ei nodweddion, ei pherthnasedd i’n hoes ni a’i harwyddocâd, ac yn olaf y Golygydd sy’n cymeradwyo astudiaeth swmpus ddiweddar John Harding, The Theology of Griffith Jones and Religious Thought in Eighteenth Century Wales. Beirdd y rhifyn yw Mary Burdett-Jones a D. Ben Rees.

Anogwn ffyddloniaid Cenn@d unwaith eto nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Joanna Thomas-Wright (joanna.thomas-wright@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.