Shop

Y Traethodydd – July 2025 issue

£7.50

Category:

Description

Rhifyn Gorffennaf 2025 o’r Traethodydd

Yn yr ysgrif agoriadol, ‘Cerdded Llwybrau Cymru, Cyd-ddyn a Christ’, mae’r Athro E. Wyn James yn cyfarch yr arlunydd Ivor Davies ar gyrraedd ei 90 oed. Arlunydd a chanddo broffil cyd-wladol yw Ivor – neu Ifor – Davies, yn frodor o Benarth ger Caerdydd, sydd wedi bywiogi’r bywyd celfyddydol yng Nghymru er diwedd pumdegau’r ganrif o’r blaen. Cawn yma arweiniad hylaw i’w yrfa yn y Swistir a’r Alban a sonnir am ei arddangosfeydd yn Tseina a’r Dwyrain Canol, a dywedir fel iddo ddychwelyd i Gymru ddiwedd y saithdegau pan oedd brwydr yr iaith yn poethi. Daeth tynged a hunaniaeth Cymru yn cynyddol bwysig iddo, peth a gafodd ei adlewyrchu yn ei ddarluniau, a daeth i werthfawrogi o’r newydd y gynhysgaeth Anghydffurfiol a gafodd yn blentyn ac yn llanc yng nghapel Bethel Penarth lle’i magwyd. Mae llawer iawn mwy na hynny yn yr ysgrif gynhwysfawr hon, ac mae’n fraint gan Y Traethodydd roi lle iddi ac ymuno yn y dathlu penblwydd.

Llenor a hanesydd o Deal, Caint, yw John Harding, awdur cyfrol bwysig ar Griffith Jones Llanddowror a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn ddiweddar, ond sy’n fwy hysbys i ddarllenwyr Y Traethodydd fel awdur straeon byrion. Yn ei ysgrif ‘Griffith Jones a Phriodasau’r Barwnigion’, mae’n defnyddio hanes priodas rheithor Llanddowror ȃ Margaret, chwaer y barwnig Syr John Philipps, Castell Pictwn, i enghreifftio fel y gallai rhai o dras isel fel Griffith Jones a oedd yn fab ffarm, godi yn gymdeithasol trwy briodi i mewn i’r bendefigaeth dirol. Mae’n ddarlun difyr o ddeinamig cymdeithasol a oedd yn bwysig ar y pryd.

Yn ‘Cymdeithas, Bro ac Adferiad’ mae Eurwyn Wiliam yn tafoli cyfraniad y diweddar Trefor M. Owen i astudiaethau gwerin Cymru. Ysgolhaig tawel a bonheddig oedd Trefor Owen, a raddiodd mewn daearyddiaeth ac anthropoleg yn Aberystwyth o dan E. G. Bowen ac Alwyn D. Rees, cyn symud i Brifysgol Caeredin a dysgu ei grefft yn astudio’r bywyd cymdeithasol ar Ynys Uist. Ar ôl cael amryw o swyddi yng ngholegau Prifysgol Cymru, bu’n olynydd i’r Dr Iorwerth C. Peate yn bennaeth yr Amgueddfa Werin yn San Ffagan. Tueddai ei natur ddiymhongar guddio aruthredd ei gyfraniad i astudiaethau gwerin yng Nghymru, a da yw cael yr astudiaeth gyfoethog hon ohono. Bydd yr ail ran yn ymddangos yn rhifyn Hydref.

Gwn y bydd darllen mawr ar drydedd rhan ‘Dyddlyfr Prifathro wrth ei Ewyllys’, sef atgofion hynod fywiog a gafaelgar Derec Llwyd Morgan o’i gyfnod yn llywio Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn negawd olaf yr hen ganrif a thu hwnt. 1998 hyd 2000 yw rhychwant y rhan hon o’r dyddiadur, a’i chynnwys yr un mor ddadlennol ȃ’r rhannau blaenorol. Bydd rhan olaf y Dyddlyfr, a fydd yn mynd ȃ’r stori hyd at ei ymddeoliad yn 2004, yn gweld golau dydd yn rhifyn Hydref. Bydd y cwbl gyda’i gilydd yn ddogfen hanesyddol o bwys.

Bardd y rhifyn hwn yw Robert Lacey a’i adolygwyr yw Katie Gramich a Gruffydd Aled Williams, y naill yn trafod golygiad Diane Pritchard-Jones o ddramâu coll Kate Roberts, a’r llall yn trafod Yr Enwog Bererinion, sef golygiad Meg Elis o astudiaeth orchestol ei mam, y ddiweddar Mari Ellis, o fywyd a gwaith ‘yr hen bersoniaid llengar’. Rhwng popeth mae’r rhifyn hwn yn un cynhwysfawr a diddorol iawn.

Yn ôl ein harfer, anogwn ffyddloniaid Cenn@d nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.