Description
Rhifyn Hydref 2024 o’r Traethodydd
Glyn Tudwal Jones, cyn-weinidog Eglwys y Crwys, Caerdydd, yw awdur ysgrif agoriadol rhifyn cyfredol Y Traethodydd, yntau’n trafod yr her genhadol sylweddol sy’n wynebu’r eglwysi a ninnau bron wedi cyrraedd ail chwarter yr unfed ganrif ar hugain. ‘Maen ar faen’ yw ei theitl, yn adleisio geiriau Iesu yn yr efengylau wrth gyfeirio at y deml ysblennydd yn Jerwsalem: ‘Edrych, Athro, y fath feini enfawr a’r fath adeiladau gwych!’, a’i ateb: ‘Yn wir, rwy’n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr’. Prin y dychmygai neb ohonom, blant yr ugeinfed ganrif, fel y gallai holl strwythurau Ymneilltuaeth ffyniannus y ganrif honno ddadfeilio mewn amser mor fyr. Nid galarnadu a wna’r awdur, fodd bynnag, ond dadansoddi sut y digwyddodd hyn, a chynnig ffordd synhwyrol ymlaen. Os dinistriwyd teml Jerusalem wedi dyddiau Iesu, cafwyd ailadeiladu hefyd, ac fel y sicrhaodd amaethwyr Dyffryn Clwyd ddiogelwch i’w cartrefi trwy godi muriau cadarn yn ôl angen, felly mae modd i Gristnogion Cymru weithredu’n gadarnhaol. ‘Gadael i Grist gael ei ymgnawdoli o hyd ym myd hagr yr unfed ganrif ar hugain: dyna dasg yr eglwys’, meddai. ‘Eilradd yw popeth arall’. Darllenwch yr ysgrif wybodus, gall a hyderus hon.
Cafwyd adolygiad yn rhifyn Gorffennaf o’r Traethodydd o gyfrol yr hanesydd John Harding ar feddwl a gwaith Griffith Jones Llanddowror a’i gyfraniad enfawr i fywyd crefyddol a diwylliannol Cymru. Fel llenor creadigol mae’n ymddangos y tro hwn, awdur y stori fer swynol ‘Yr Alarch’. Brodor o Deal yng Nghaint yw John Harding, ac yno mae’n byw. Nid cyfrwng ymchwil academaidd yn unig mo’r Gymraeg iddo, ond fel y dengys y stori hon, mae’n gyfrwng llenydda creadigol yn ogystal. Nid dyma’r stori fer gyntaf o’i eiddo i ymddangos ar ein tudalennau, a hyfryd yw cael ei groesawu nôl.
Gerald Morgan, yr hanesydd diwyd o Aberystwyth, sydd nesaf, yn rhannu’i ymchwil i fywyd, gwaith a chyfraniad dau o offeiriaid anghofiedig Ceredigion, Lewis Evans o Llanfihangel Genau’r-glyn, a Lewis Evans ei fab. Trwy ymchwil orchestol y diweddar Mari Ellis a diwydrwydd Meg, ei merch, yn sicrhau bod gwaith ei mam yn gweld golau dydd, daethom i wybod fwy nag erioed o’r blaen am lafur Gwallter Mechain, Ifor Ceri a gweddill ‘yr hen bersoniaid llengar’. Dyma ddau arall i ymuno ȃ nhw. Ffrwyth clasuriaeth ysgol enwog Ystrad Meurig oeddent, a Lewis Evans y mab yn fyfyriwr yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, pan oedd John Henry Newman, tiwtor y coleg hwnnw, yn creu chwyldro Catholig yn Eglwys Loegr. Dychwelyd i Geredigion a wnaeth, i daenu’r ysbryd catholig ymhlith ei blwyfolion cefn gwlad. Difyr yw cael gwybod am gyfraniad y ddau.
Hamddena, ymhlith ieuenctid yn arbennig, rhwng y ddau ryfel byd yw thema astudiaeth gyfoethog Llion Wigley, a hon sy’n cael sylw ar glawr y rhifyn yn ogystal. Olrhain newidiadau cymdeithasol yw’r nod, gyda’r awdur wedi dadorchuddio lliaws o ffeithiau gan sylwebyddion cyfoes yn dangos fod chwyldro amlwg yn digwydd o’u cwmpas, a hwythau heb fod yn siŵr sut orau i ymgodymu ag ef. Os yw plant canol yr ugeinfed ganrif yn anesmwyth yn y Gymru newydd, felly yr oedd pethau yn nau-ddegau a thridegau’r ganrif o’r blaen. Astudiaeth hynod yw hon fydd yn parhau yn y rhifyn nesaf.
Derec Llwyd Morgan a Mary Burdett-Jones, dau o ffyddloniaid y cylchgrawn, yw’n beirdd y tro hwn, tra bod y Dr Hefin Jones yn adolygu cyfrol Carwyn Graves, Tir: the Story of the Welsh Landscape, Richard Owen yn talu sylw i rifynnau diweddar yng nghyfres Yr Hen Lyfrau Bach, a’r golygydd yn tafoli Gair Duw ar Lafar Gwlad, cyfrol olaf y diweddar, ysywaeth, Dewi Arwel Hughes. Rhwng popeth, felly, dyma rifyn llawn arall gyda rhywbeth, gobeithio, at ddant pawb.
Anogwn ffyddloniaid Cenn@d unwaith eto nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Joanna Thomas-Wright (joanna.thomas-wright@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.



