Shop

Y Traethodydd: October 2025 issue

£7.50

Description

Rhifyn Hydref 2025 o’r Traethodydd

Bywyd, gwaith a chyfraniad Islwyn Ffowc Elis, nofelydd mwyaf poblogaidd Cymru’r ugeinfed ganrif ac enillydd gwobr Llyfr y Ganrif, sef Cysgod y Cryman, yw testun prif erthygl rhifyn Hydref o’r Traethodydd. Perthynas i Islwyn, sef Rheinallt Llwyd, yw’r awdur, ac mae’r erthygl yn seiliedig ar ddarlith gyhoeddus a enynnodd gryn ddiddordeb pan draddodwyd hi mewn mwy nag un cylch ddiwedd llynedd a dechrau’r flwyddyn hon. Dathlu canmlwyddiant geni Islwyn oedd y nod, ac mae’n mynd ȃ ni o’i fagwraeth yn Nantyr, Dyffryn Ceiriog, yn nau-ddegau’r ganrif o’r blaen, heibio i’w addysg yn ysgol y pentref, yr ysgol uwchradd yn Llangollen, Coleg y Brifysgol ym Mangor a’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth a Choleg y Bala wedyn. Ym Mangor yn niwedd y tridegau a dechrau’r pedwardegau y gwnaeth enw i’w hun fel awdur, dramodydd a lluniwr sgriptiau difyr, yn un o’r to hynod ddawnus a chreadigol a oedd yno ar y pryd, criw a oedd yn cynnwys Merêd, y Dr Meredydd Evans, ‘Triawd y Coleg’ a phobl ddisglair eraill. Ceir sȏn am ei flynyddoedd rhwystredig fel gweinidog, ym Maldwyn ac yno ym Môn, er mai o’r rhwystredigaeth hon y tarddodd y ddwy nofel a weddnewidiodd hanes y nofel Gymraeg, sef Cysgod y Cryman ac Yn ôl i Leifior. Mae’n olrhain ei hanes wedi hynny, fel awdur ar ei liwt ei hun, y cyntaf i geisio gwneud bywoliaeth o lenydda yn Gymraeg, yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, yn gyfarwyddwr cyhoeddi gyda’r Cyngor Llyfrau, yn awdur at ei liwt ei hun eilwaith, ond yn Wrecsam y tro hwn, a’i swydd broffesiynol olaf fel uwch-ddarlithydd mawr ei ddylanwad yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Llwybr igam-ogam a gymerodd, ys dywed Rheinallt Llwyd, gan wynebu fwy nag un rhwystr ar y ffordd. Caiff y cwbl ei osod allan yn ddeheuig iawn yma, gyda thoreth o luniau difyr i nodi’r gwahanol gamau. Gwych o beth yw medru dathlu camp awdur mor bwysig a personoliaeth hoffus  dros ben.

Yn ail ran ei ysgrif ‘Cymdeithas, Bro ac Adferiad’, mae Eurwyn Wiliam yn parhau gyda’i ddadansoddiad o gyfraniad y diweddar Trefor M. Owen i astudiaethau gwerin Cymru. Canolbwyntio ar ddadansoddiad blaengar y gwrthrych o natur yr economi gwledig a wneir y tro hwn, ynghyd ag arferion llên gwerin ac ethnoleg rhanbarthol. Mae’r paragraff clo yn crynhoi cyfraniad gŵr eithriadol fonheddig a diymhongar, ‘yr unig ysgolhaig Cymreig i edrych ar sawl agwedd bwysig o’n hanes fel pobl’.

Wrth werthfawrogi gwaith holl awduron y cylchgrawn ar hyd y flwyddyn, yr un cyfraniad sydd wedi tynnu’r sylw ehangaf yw ‘Dyddlyfr Prifathro wrth ei Ewyllys’, sef atgofion hynod fywiog a gafaelgar Derec Llwyd Morgan o’i gyfnod yn llywio Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn negawd olaf yr hen ganrif ac i mewn i’r ganrif hon. Cafwyd tair ysgrif hyd at y rhifyn diwethaf, a dyma ni’n cyrraedd y bedwaredd a’r olaf, sy’n mynd ȃ’r stori hyd at ei ymddeoliad yn 2004. Ni chaiff neb sydd wedi darllen yr ysgrifau eraill ei siomi y tro hwn. Mae’n dadlenni llawer nid yn unig amdano’i hun fel gweinyddwr, ffigur cyhoeddus a gŵr i Jane, tad i Elin a thad-cu i Joel, ond mae’n darlunio rhai o symudiadau pwysicaf bywyd politicaidd ac academaidd y Gymru sydd i’w gweld, ysywaeth, ym mhell yn ôl erbyn hyn. Ond diolch, Derec, am roi i ni gyfres mor ddifyr-ddadlennol a chaiff ei hystyried maes o law yn ddogfen hanesyddol o bwys.

Beirdd y rhifyn hwn yw Robert Lacey ac Aled Jones Williams, a’n hadolygydd yw Dafydd Johnston sy’n tafoli cyfrol ddiweddar hynod ddeniadol sef Darlithiau Cymdeithas Waldo 2010–2024, sylwedd darlithoedd gan amryw byd o’n beirniaid, Rowan Williams ac M. Wynn Thomas yn eu plith. Os bardd mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd Waldo fel y myn rhai, ceir yma ddathliad teilwng o’i athrylith.

Yn ôl ein harfer, anogwn ffyddloniaid Cenn@d nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.