Shop

Y Traethodydd: January 2026

£7.50

Description

Rhifyn Ionawr 2026 o’r Traethodydd

Cyfraniad merched i fywyd cyhoeddus Cymru’r ugeinfed ganrif yw’r thema sy’n clymu ynghyd ddwy brif ysgrif rhifyn Ionawr o’r Traethodydd. Mae Llion Wigley yn trafod y lle canolog a chwaraewyd gan ferched ym mywyd Plaid Cymru yn ystod ei blynyddoedd ffurfiannol, tra bod Siân Rhiannon Williams yn ein goleuo ynghylch bywyd, gwaith a gyrfa’r addysgydd o Gaerfyrddin, Elizabeth Phillips Hughes.

‘Adnabod Deg Amgen’ yw teitl yr ysgrif gyntaf, sef cyfraniad menywod i ddatblygiad Plaid Genedlaethol Cymru, c. 1925-50. Cawn ddysgu yma am rai fel Mallt Williams, Llinos Roberts, Tegwen Clee, Efelyn Williams, Mai Williams a’i chwaer Priscie ac eraill, sydd i bob pwrpas wedi eu hysgrifennu allan o’r stori er y bu enwau fel Kate Roberts a Cassie Davies yn gyfarwydd i lawer. Fel mae’n digwydd, mae cyfrol ddiweddar Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffydd Dros Grymu’n Gwlad: Hanes Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru a adolygir yn y rhifyn hwn gan Richard Owen, yn rhoi sylw manwl i waith arloesol Mai Williams yn arbennig, eto mae’n dda cael gwybod mwy am y merched ‘coll’ hyn.

Enw anghyfarwydd i lawer yw Elizabeth Phillips Hughes, testun ysgrif afaelgar Siân Rhiannon Williams. Yn enedigol o Gaerfyrddin ac yn chwaer i’r pregethwr Wesle enwog Hugh Price Hughes, hi oedd brifathrawes gyntaf Goleg Hyfforddi Merched Caer-grawnt a bu’n hynod flaengar yn ei dydd wrth geisio sicrhau cyfle a chyfartaledd i ferched ym maes addysg uwch. ‘Merch Myrddin’ oedd ei henw barddol, ac wedi gadael Caer-grawnt aeth i fyw i’r Barri gan ymroi i’r mudiadau cymdeithasol a oedd yn ffynnu yno ac yng nghylch Caerdydd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Meddai Siȃn Rhiannon: ‘Cafodd fywyd amrywiol a diddorol, ond fel cynifer o fenywod a gafodd ddylanwad arhosol yn lleol ac yn genedlaethol, aeth Elizabeth Hughes yn angof i lawer yng Nghymru. Mae’n bryd rhoi’r sylw haeddiannol iddi’. Gwych o beth yw cael gwneud hynny trwy gyfrwng yr ysgrif bwysig hon.

Enw cyfarwydd i ddarllenwyr Y Traethodydd yw Aled Jones Williams, nid yn gymaint fel dramodydd neu nofelydd ond fel bardd. Cerddi byrion, cryno, epigramatig sy ganddo. Yn ôl yr Athro M. Wynn Thomas, mae’n fardd ‘sy’n arbenigo mewn cynhyrchu “haikus” ysbrydol gwefreiddiol o dreiddgar. Efe, yn ddi-os, yw bardd “crefyddol” mawr ein cyfnod petrusgar, ymchwilgar ni.’ Fel radical, yn wir fel drylliwr delwau, y caiff ei adnabod orau efallai, ond dengys ei gyfrol hunangofiannol ddiweddar Reit Rownd: Cyffes Aled Jones Williams fod cryn newid wedi digwydd yn ei hanes. ‘Cerdded y Cylch Cyfan: Llwybr hirfaith Aled Jones Williams’ yw teitl ysgrif-adolygiad gan y Golygydd, sy’n crynhoi cynnwys y gyfrol hynod hon, sydd, yn ei dyb ef, yn un o gyfrolau crefyddol mwyaf trawiadol y blynyddoedd diwethaf. ‘Gwledd sydd yma i’r meddwl ac i’r dychymyg’, meddai, felly anogwn bawb i ddarllen yr adolygiad ac yn bwysicach na hynny, y gyfrol sy’n sail iddo.

Beirdd y rhifyn hwn yw Mary Burdett-Jones a D. Ben Rees. Dylid crybwyll hefyd ysgrif fer y llyfrbryf Gerald Morgan, gwaith ditectif ar y gyfrol Car-ŵr y Cymry, ysgrif sydd hefyd yn werth ei darllen. Ffyddloniaid y cylchgrawn yw’r tri awdur hyn, ac mae’n dda cael cynnwys eu gwaith.

Yn ôl ein harfer, anogwn ffyddloniaid Cenn@d nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.