Chwiorydd
Swyddogion
Llywydd: Marion Simkin, Nercwys 2024-2027
Eirian Roberts: Cydlynydd Gwaith Chwiorydd
Sarah Morris: Ysgrifennydd a Chydlynydd Dorcas, De Cymru
Carys Davies: Cydlynydd Dorcas, Gogledd Cymru
Amdanom ni
Mae Pwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob Sasiwn Genhadol a Henaduriaeth.
Ein nod: yw annog ein chwiorydd i dyfu yn eu ffydd, i fod yn dystion effeithiol a pherthnasol i Iesu Grist yn ein cymunedau ac i gynnig cefnogaeth i genhadaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Datganiad
Llawenhawn yn Nuw ein Tad nefol a’n creodd ni a’n galw trwy ei ras.
Down i berthynas fyw gyda’n Tad nefol trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist.
Cyffeswn Iesu Grist fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr ac yr ydym yn ei addoli a’i wasanaethu â llawenydd.
Credwn fod ein Tad yn ein galw i fyw newyddion da ei gariad heddiw ac, wedi’n grymuso gan yr Ysbryd Glân, rydym yn cynnig ein bywydau i wasanaethu’r byd.
Dathlwn ein haelodaeth o eglwys Crist trwy fentro ymlaen mewn ffydd gydag Ef wrth ein hochr.
Mae Is-bwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae llawer o’r chwiorydd yn gweithio’n ddiwyd iawn o fewn eu heglwysi, dosbarth a Henaduriaeth, yn cyfrannu mewn sawl ffordd at fywyd yr Eglwys.

