EIDDO
Yn yr adran hon ceir adnoddau ar gyfer rheoli a chynnal eiddo eich eglwys.
Dogfennau Eiddo
Dogfennau Yswiriant
TAW ar Gapeli Rhestredig
Eiddo ar werth
Dolennu Eiddo
Rhentu Doeth

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud:
Os ydych yn gwneud unrhyw rai o’r dyletswyddau landlordiaid canlynol yng Nghymru, yna bydd angen i chi sicrhau bod eich eiddo yn cael eu cofrestru. Yr unig eithriadau yw os yw’r rhent yn LLAI NA £250 y flwyddyn, neu os oes gweinidog cyflogedig yn byw yn yr eiddo. Mae pob Ty Capel, sy’n eiddo i Eglwys Fflat yn / Tai etc ANGEN cael eu cofrestru.
- cyhoeddi hysbysiadau neu ddosbarthu gwybodaeth;
- trefnu â chynnal ymweliadau gyda darpar denantiaid;
- paratoi neu drefnu cytundeb tenantiaeth;
- paratoi neu drefnu rhestr eiddo ar gyfer yr annedd neu restr o gyflwr yr eiddo;
- casglu rhent;
- bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi dan y denantiaeth;
- gwneud trefniadau gyda rhywun i gyflawni gwaith trwsio neu gynnal a chadw;
- gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;
- gwirio cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu gwirio fel rhan o denantiaeth gyfredol neu un sydd wedi dirwyn i ben;
- cyflwyno hysbysiad i derfynu tenantiaeth.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen gofrestru hon a’i dychwelyd at Neil yn y Swyddfa Ganolog, Caerdydd. Efallai y bydd angen i chi hefyd gwblhau cwrs hyfforddi, gallwch wneud hyn ar-lein neu mewn ystafell ddosbarth. Cysylltwch a’r swyddfa i drefnu cwrs hyfforddi perthnasol i chi.
Noder: Os ydych wedi dewis i gyfarwyddo Asiant Ystadau i reoli’r eiddo ar eich rhan, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ganolog.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad mae croeso i chi gysylltu â Neil. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar gwefan Rhentu Doeth Cymru yma.
Dogfennau Rhentu Doeth Cymru
