Plant a Ieuenctid
Mae’r Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn ymrwymo i ddysgu, yn gywir a chreadigol, ein plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a’n teuluoedd, beth yw cynnwys a pherthnasedd y Beibl. Anogir hwy i gymhwyso’r ddysgeidiaeth i’w bywyd personol er mwyn bod yn ddisgyblion ffyddlon i Iesu Grist ac yn ddinasyddion cywir.’
‘Rydym yn eu hannog i ystyried eu perthynas gyda’r Iesu ac i ddarganfod y doniau a roddwyd iddynt gan Dduw. Gofynnwn iddynt hefyd i feddwl pa ran sydd ganddynt hwy i’w gynnig i’r eglwys leol. Gobeithiwn fagu a hyfforddi arweinwyr newydd i’r Gymru gyfoes!
Mae ein Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid am gefnogi y rhai sy’n arwain plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd ar lawr gwlad drwy wrando, annog a chalonogi, hyfforddi, paratoi a chynghori ar adnoddau addas i’w gwaith.

Gwaith Plant
Y mae clybiau plant Cristnogol sy’n cyfarfod yn syth ar ôl ysgol neu hwyr y prynhawn yn boblogaidd iawn mewn sawl ardal yng Nghymru. Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu a chynnal Clybiau Plant Cristnogol a chynnig cyngor i athrawon Ysgolion Sul.

Gwaith Ieuenctid
Y mae parhad yn bwysig iawn mewn gwaith plant ac ieuenctid! Dylai’r eglwys ddarparu clwb i’r plant sy’n rhy hen i fynychu’r clwb plant. Gallwn gynghori’r eglwys ar sut i sefydlu a chynnal Clybiau Ieuenctid Cristnogol.
Gwaith Ieuenctid Hŷn
Y gwaith ymhlith yr ieuenctid hŷn yw ceisio eu casglu ynghyd i’w hyfforddi a’u hannog i wasanaethu yn y Gymru gyfoes drwy eu heglwysi lleol. Gwneir hyn drwy Souled Out
Gwaith Ysgolion
Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu perthynas gyda’r ysgol leol. Gall ein gweithwyr ysgolion:
roi cyngor ar sut i gychwyn grwp Agor y Llyfr.
roi cyngor ar sut gall aelodau’r eglwys gynorthwyo’n ymarferol yn yr ysgol leol.
Clicliwch isod i ddarllen dogfen ‘Cysylltu Eglwysi ag Ysgolion – profiadau aelodau’, Vaughan Salisbury, Swyddog Addysg EBC (Tachwedd 2023)
Gwaith Teulu
Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol yn ei gwaith ymhlith teuluoedd eu bro. Dylai adeiladu perthynas gyda theuluoedd fod yn un o brif amcanion yr eglwys leol.
Myfyrwyr Blwyddyn Gap
Cynigir cyfle i ddau berson ifanc dreulio blwyddyn yng Ngholeg y Bala. Mae’r FLWYDDYN GAP yn gwrs ymarferol mewn meithrin disgyblion sy’n para blwyddyn (Medi-Awst) ac wedi ei leoli yng Ngholeg y Bala, Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Amcanion y FLWYDDYN GAP yw:
annog datblygiad personol ac ysbrydol
ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a’i botensial
datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i’r Eglwys.
DYDDIAD CAU Y FLWYDDYN GAP AM 2024 YW’R 23AIN O CHWEFROR, 2024.
Coleg y Bala
Mae Canolfan y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn cynnal cyrsiau preswyl i blant, ieuenctid, oedolion ifanc a theuluoedd o Gymru gyfan. Os ydych yn arwain Ysgol Sul / Clwb Plant neu Clwb Ieuenctid beth am ddod a chriw i rai o benwythnosau’r Coleg? Mae’n gyfle gwych i arweinwyr lleol dreulio amser yng nghwmni’r plant a phobl ifanc a chael dod i’w hadnabod yn well. Mae’r cyrsiau yn rhoi’r cyfle i’r plant a phobl ifanc i feddwl mwy am ffydd a chael cyfarfod plant a phobl ifanc eraill sy’n mynd i glybiau tebyg iddynt. Mae’r ganolfan hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc arwain ar y cyrsiau sy’n brofiad gwych ac yn help iddynt i dyfu fel arweinwyr.
Cliciwch y llun isod i ddarllen mwy am y cyrsiau sydd yn mynd ymlaen.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyrsiau ymwelwch a gwefan y Coleg colegybala.org neu ffoniwch 01678 520565.
Hyfforddiant
Cynigir hyfforddiant ar amrywiol bynciau priodol yn ymwneud â gwaith plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r swyddfa trwy:
e-bost: swyddfa.office@ebcpcw.cymru
ffôn: 029 2062 7465
Gweithwyr Bro
‘Rydym yn cynnig cyngor ar gyflogi gweithwyr plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd yn lleol. Dros y blynyddoedd rydym wedi cynorthwyo nifer o ardaloedd i sefydlu ymddiriedolaethau cyd-enwadol i’r perwyl hwn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid
Y Coleg
Y Bala
Gwynedd
LL23 7RY
01678 520565
ieuenctid@ebcpcw.cymru
https://souledoutcymru.net


