EIN HANES
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu y Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn olrhain ei hanes i Ddiwygiad Methodistaidd y 18fed Ganrif. Sefydlwyd ein hachosion cyntaf yn niwedd y 1730au, a’r bwriad adeg hynny oedd darparu cymdeithasau i fugeilio’r rhai oedd wedi dod o dan ddylanwad yr Efengyl drwy bregethu yr arweinwyr cynnar. Ni fwriadwyd sylweddoli Enwad newydd ar y cychwyn, er i’r cymdeithasau cyntaf ymdebygu fwy-fwy i eglwysi wrth i’r ganrif honno fynd yn ei blaen.
Yn dilyn cyfnod o dwf, penderfynodd yr arweinwyr bod angen i’r Methodistiaid Calfinaidd neilltuo eu gweinidogion eu hunain yn 1811, a tyfodd yr Eglwys i dros 250,00 o aelodau erbyn 20au’r 20fed ganrif. Bellach yr ydym yn Eglwys o tua 13,000 o aelodau mewn ychydig llai na 500 o gynulleidfaoedd.
1735
Dechreuad y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, a hynny yn benodol drwy dröedigaethau Howell Harris a Daniel Rowland.
Yn ddyn ifanc 21 oed ar y pryd, daeth Howel Harris i argyhoeddiad o dan weinidogaeth Price Davies, ficer Talgarth ar Sul y Blodau, ac erbyn y Sulgwyn, yr oedd wedi dod i sicrwydd ffydd, sicrwydd a arweiniodd at ei ddyhead i weld eraill yn dod i gredu.
Yr oedd Daniel Rowland eisoes wedi ei ordeinio yn gurad yng nghylch Llangeitho, ac mewn oedfa o dan arweiniad Griffith Jones Llanddowror yn Llanddewi Brefi, daeth yntau i ffydd bersonol. Heb fod yn ymwybodol o brofiadau ei gilydd, cychwynnodd y ddau bregethu a casglu seiadau.
Cyfarfu y ddau am y tro cyntaf yn 1737, ac erbyn 1740, ynghyd ag arweinwyr eraill fel William Williams a Howell Davies, dau a ddaeth i gredu o dan weinidogaeth Howel Harris, yr oeddent yn cyfarfod gyda’i gilydd i roi trefn ar y pregethu, ar y seiadau, ac ar arweinwyr lleol.
Mewn adroddiad o Gymdeithasfa gynhaliwyd yn Nhrefeca yn 1746, yr oedd ‘saith ugain o Gymdeithasau crefyddol yn perthyn i Gorff y Methodistiaid Calfinaidd’.
1811
Gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr drwy neilltuo, neu ordeinio gweinidogion yn y Bala ac yn Llandeilo.
Yn dilyn y fendith o dan yr arweinwyr cyntaf, ac o ganlyniad i nifer o ddiwygiadau yn ystod y 18fed ganrif, codwyd ail genhedlaeth o arweinwyr. Yn eu plith yr oedd Thomas Charles, Thomas Jones a John Elias. Er i’r arweinwyr hyn geisio osgoi gael eu hadnabod fel rhai oedd am wahanu oddi wrth Eglwys Loegr, parodd twf y mudiad, a’r nifer prin o weinidogion yr Eglwys honno oedd yn cydymdeimlo â, ac ar gael i wasanaethu a gweinyddu’r sacramentau ymhlith y Methodistiaid i’r Methodistiaid gytuno i neilltuo rhai o’i plith eu hunain i weinyddu y sacramentau.
1823
Llunio a mabwysiadu Cyffes Ffydd.
Yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn dal, cyn yr ordeinio yn 1811 fod y deugain erthygl namyn un o eiddo Eglwys Loegr, o’u dehongli’n Galfinaidd, yn mynegi hanfodion eu credo yn ddigonol. Wedi ymwahanu, tybiodd yr arweinwyr fod angen mynegiant neu gyffes i’r Enwad newydd, a cytunwyd yn unfrydol ar ffurf o eiriad mewn Cymdeithasfa yn Aberystwyth yn 1823.
1826
Corffori’r Eglwys – neu’r Cyfundeb trwy Weithred Gyfansoddiadol.
Yn dilyn ffurfio’r Enwad gyda’i chyffes, aed ati i Gorffori’r Eglwys drwy y Weithred Gyfansoddiadol yn 1826, gweithred oedd nid yn unig yn gosod allan trefn llywodraeth a chredo yr Eglwys, ond hefyd oedd yn annerch perchnogaeth eiddo.
1837
Lewis Edwards a David Charles yn agor ysgol yn y Bala, a gafodd ei throi yn Goleg i addysgu gweinidogion ym 1839.
1840
Sefydlu’r Gymdeithas Genhadol Dramor i anfon cenhadon i Fryniau Khassia a Jaintia yn Assam, India.
1842
Sefydlu Coleg i addysgu gweinidogion yn Nhrefeca.
1845
Penderfynu rhoi’r holl eglwysi dan ofal gweinidog. Hefyd, cyhoeddi rhifyn cyntaf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol sy’n cael ei gyhoeddi hyd heddiw.
1864
Cyfarfod cyntaf y Gymanfa Gyffredinol, yn Abertawe.
1933
Pasio deddf Seneddol i amrywio’r cyfansoddiad, ac i sicrhau cofrestru holl eiddo y Cyfundeb yn enw’r Bwrdd Eiddo.
1947
Sefydlu’r Sasiwn yn y Dwyrain, sef llys eglwysig ar gyfer yr eglwysi Saesneg eu hiaith.
1958
Sefydlu Cronfa Gynnal i sicrhau cyflog teg a mans i bob gweinidog.
1968
Cenhadon olaf yn dod adref o ogledd-ddwyrain India. Hefyd, troi Coleg y Bala yn ganolfan plant ac ieuenctid.
1975
Y Cyfamod tuag at Undod gydag eglwysi eraill yng Nghymru.
1978
Pamela Turner yn cael ei hordeinio yn weinidog – y wraig gyntaf. Hefyd, dod yn aelod o Gyngor y Cenhadaeth Fyd-eang (CWM).
1983
Penodi’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf – Parchedig Dafydd Owen.
2004
Y Swyddfa Ganolog yn symud i’w safle presennol yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
2007
Mabwysiadu strwythur newydd ar gyfer Henaduriaethau a Byrddau’r Gymanfa Gyffredinol.
2008
Cofrestru Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel elusen a mabwysiadu cyfansoddiad newydd.
2011
Dathlodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddaucanmlwyddiant yr ordeinio cyntaf yn 1811.
2012
Penodi’r Parchedig Meirion Morris yn Ysgrifennydd Cyffredinol.

2022
Penodi’r Parchedig Nan Wyn Powell-Davies yn Ysgrifennydd Cyffredinol.

2023
Rebecca Lalbiaksangi, y fenyw cyntaf o Eglwys Bresbyteraidd India yn cael ei hordeinio.

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1914 er mwyn hybu ymchwil i hanes yr Eglwys. Mae’n bennaf gyfrifol am ddiogelu dogfennau’r Eglwys, noddi’r Ddarlith Hanes flynyddol yn y Gymanfa Gyffredinol a chyhoeddi’r Cylchgrawn Hanes.
Mae’r Parchedig Ddr Rhidian Griffiths, Ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes yn derbyn tanysgrifiadau’r Gymdeithas ac yn croesawu aelodau newydd.
Cedwir archif Eglwys Bresbyteraidd Cymru (a adnabyddir hefyd fel Archif y Methodistiaid Calfinaidd) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Dr Eryn M. White yw Curadur y Gymdeithas Hanes. Dylid anfon unrhyw archifau iddi i’r Adran Hanes Cymru, Adeilad Huw Owen, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 3DY (01970 622662).
Am fwy o wybodaeth am y Gymdeithas Hanes, cysylltwch â Dr Rhidian Griffiths; rhidian.griffiths@ebcpcw.cymru