Mae Is-bwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae llawer o’r chwiorydd yn gweithio’n ddiwyd iawn o fewn eu heglwysi, dosbarth a Henaduriaeth, yn cyfrannu mewn sawl ffordd at fywyd yr Eglwys.
Ein nod: yw tystiolaethu’n effeithiol a pherthnasol i Iesu Grist yng nghyd-destun y Chwiorydd. Trwy eu harwain a’u cynorthwyo i dyfu yn ei ffydd ac i dystiolaethu a gwasanaethu yn lleol ac i estyn allan yn fyd-eang.
Swyddogion 2021-22
Christine Hodgins, Mancot – Llywydd
Sarah Morris, Llandysul – Ysgrifennydd a Chydlynydd Rhaglen Dorcas y De
Carys Davies, Llangefni – Cydlynydd Rhaglen Dorcas y Gogledd
Parch Nan Powell Davies, Yr Wyddgrug – Ysgrifennydd Cyffredinol
Eirian Roberts, Y Bala – Trefnydd Gwaith y Chwiorydd
Cliciwch yma i weld cyflwyniad Gwasanaeth ‘Myfi yw’r Wir Winwydden’
DATGANIAD
Llawenhawn yn Nuw ein Tad nefol,
yr Hwn a’n creodd ac a’n galwodd trwy ei ras.
Down i berthynas fyw â’n Tad nefol trwy
fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist.
Cyffeswn Iesu Grist fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr:
Addolwn a gwasanaethwn Ef mewn llawenydd.
Credwn fod ein Tad yn ein galw i fyw
Efengyl ei gariad heddiw, ac yng ngrym yr Ysbryd Glân
Cyflwynwn ein bywyd mewn gwasanaeth i’r byd.
Dathlwn ein haelodaeth o Eglwys Crist a mentrwn ymlaen
Mewn ffydd yn ei gwmni Ef.
Y Bwletin Cenhadol
Mae’r Bwletin Cenhadol yn adnodd gwerthfawr i’r Chwiorydd dderbyn newyddion rheolaidd a rhannu gwybodaeth. Darperir gan Eirian Roberts, Trefnydd Gwaith y Chwiorydd yn swyddfa’r Chwiorydd yn y Bala.
Am fanylion pellach am y Chwiorydd a’u gwaith, cysylltwch ag Eirian Roberts, Trefnydd Gwaith Chwiorydd rhan amser, at 01678520056, neu e-bostiwch eirian.roberts@ebcpcw.cymru