Siop

Y Traethodydd: Ebrill 2026

£7.50

Disgrifiad

Rhifyn Ebrill 2026 o’r Traethodydd

Ymdriniaeth T. Robin Chapman ag agwedd newydd o farddoniaeth Waldo Williams yw prif ysgrif rhifyn Ebrill o’r Traethodydd. Amser, lle a chanfyddiad yw’r thema, gyda’r awdur yn dadansoddi’r elfennau hynny yng nghanu’r bardd. Enillodd Waldo ei le ers tro byd fel bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif – ydi hi’n gywir honni hynny ag ystyried gymaint o feirdd mawr eraill a fu’n cydoesi ag ef? – ond mae’r beirniaid, heb sȏn am ddarllenwyr cyffredin, yn dal i ddarganfod pethau newydd yn ei waith. Felly hefyd yn yr ysgrif gyfoethog a thra darllenadwy hon.

2025 oedd mil saith ganmlwyddiant cyhoeddi Credo Nicea, y gredo a sefydlodd farn yr eglwys ar Athrawiaeth y Drinod a Duwdod Crist, ac mewn traethiad hynod awgrymog, mae Rosa Hunt, cyfrannwr cyson i Cenn@d a gweinidog Eglwys y Tabernacl Caerdydd, yn gofyn y cwestiwn ‘Beth sydd gan Gredo Nicea i ddweud wrth Gymru heddiw?’ Nid traethiad sychlyd a damcaniaethol sydd ganddi, ond traethiad bywiog ar rai o wirioneddol creiddiol y ffydd a’u perthnasedd hynod i’r byd cyfoes. Sylwedd Darlith Goffa Pennar Davies a Tudur Jones i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw’r ysgrif hon a fydd yn parhau yn rhifyn Gorffennaf.

Gogledd Cymru yn fwy na’r De a gynhyrchodd brif almanacwyr y genedl dair canrif yn ôl, ac mewn ysgrif gynhwysfawr mae A. Cynfael Lake yn disgrifio bywyd a gwaith John Harris o Gydweli a Mathew Williams o Ros-maen, Llandeilo, dau ddeheuwr a oleuodd y Cymry trwy eu halmanaciau yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Cawn yma gipolwg ar fywydau’r werin ar y pryd, a hynny mewn ffordd ddifyr iawn.

Efallai bydd y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd a’r term Saesneg Quantam Theory os nad yn deall ei ystyr, felly buddiol yw cael gwybod nid yn unig beth yw damcaniaeth cwantwm ond sut y’i darganfuwyd. ‘Helgoland, Göttingen a Threganna a dirgelion y Cwantwm’ yw teitl ysgrif Rowland Wynne sy’n olrhain hanes dau wyddonydd enwog, Werner Heisenberg a Max Born, yn yr anturiaeth hon. Ceir cyswllt Cymreig i’r stori am fod un o’u cydweithwyr yn hanu o Dreganna, Caerdydd, ac yntau yn dad i un o sêr byd y ffilmiau. Ond bydd rhaid i chi ddarllen yr ysgrif i wybod pwy yn union ydyw!

Ceir dau adolygiad cynhwysfawr yn y rhifyn hwn, y naill gan Dafydd Glyn Jones ar astudiaeth bwysig Dewi Alter, yr ysgolhaig ifanc o Gaerdydd, Cof Diwylliannol yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar, tra bo Rhianydd Jewel, un arall o’n hysgolheigion ifainc, yn tafoli’r gyfrol Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV, a olygwyd gan Elis Dafydd a Gareth-Evans Jones. Mae’n dda cael deall fod y gyfres bwysig hon yn parhau, y tro hwn dan ofal o ysgolheigion ifainc (eto!), o Brifysgol Bangor.

Yn ôl ein harfer, anogwn ffyddloniaid Cenn@d nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.