Disgrifiad
Rhifyn Gorffennaf 2026 o’r Traethodydd
Hanes aelod o Deulu Trefeca, sef Rhoda Evan, merch o blwyf Llanwynno, Morgannwg, yw thema prif ysgrif rhifyn Gorffennaf o’r Traethodydd. Eryn M. White sy’n adrodd ei stori, a thrwy hynny ddarlunio bywyd yn un o fentrau mwyaf diddorol y Fethodistiaeth gynnar, sef ‘Y Teulu’, neu’r gymuned Gristnogol hynod a sefydlwyd gan Howell Harris yn ei gartref yn Nhrefeca yn 1752. Ni ŵyr neb mwy nag Eryn am fywyd y Methodistiaid cynnar, yn enwedig y merched a gyfrannodd mor helaeth at lwyddiant y mudiad, a daw ei gallu i ysgrifennu yn afaelgar yn amlwg yn yr ysgrif gyfoethog hon. Bu farw Rhoda trwy anffawd trasig yn 1767 a hithau ond yn 31 oed, ond er gwaethaf y tristwch, anturiaeth a newydd-deb oedd nodweddion mwyaf amlwg y gymuned fel y gwelwch o ddarllen y traethiad difyr hwn.
O droi o’r ddeunawfed ganrif at gyfnod nes atom, ceir ymdriniaeth hefyd ȃ dau o lenorion mawr Cymraeg yr ugeinfed ganrif, sef Kate Roberts ac Emyr Humphreys. Yn adeiladu ar eu cyfrol Dros Gymru’n Gwlad: Hanes Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru a adolygwyd yn rhifyn Ionawr o’r Traethodydd, mae Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd yn disgrifio ac yn dadansoddi ymwneud y nofelydd a’r storïwraig Kate Roberts ȃ Phlaid Cymru. A hithau yn un o’i haelodau cynnar, arhosodd gyda’r Blaid ar hyd ei hoes er gwaethaf ei hanesmwythyd amlwg ȃ rhai o’i hagweddau, yn arbennig erbyn canol y ganrif. Gwyddom lawer am fywyd a phersonoliaeth yr un a alwyd – yn ddigon anffodus erbyn hyn – yn ‘frenhines ein llȇn’, ac mae’r ysgrif hon yn ychwanegu at y wybodaeth honno.
Un o ladmeryddion mwyaf Kate Roberts, yn enwedig yn saith- ac wythdegau’r ganrif o’r blaen, oedd Derec Llwyd Morgan, ond nid arni hi ond ar nofelydd-cyfrwng- Saesneg mwyaf Cymru yr un cyfnod, Emyr Humphreys, yr ysgrifenna yma. Er i Kate fyw yn hen, cyrhaeddodd Emyr (a oedd yn iau na hi o ugain mlynedd) ei gant-ag-un, a nodi ailgyhoeddi diweddar detholiad o’i waith a ymddangosodd gyntaf yn 2009 a wna’r ysgrif ‘Emyr Humphreys ac Amseroedd Cymru’. Er iddo ysgrifennu yn Saesneg, darlunio bywyd Cymru Gymraeg yr ugeinfed ganrif a wnaeth Emyr, a hynny yn dreiddgar gofiadwy. Dwy ysgrif, felly, ar ddau o’n nofelwyr mwyaf, ac mae’n fraint gan Y Traethodydd rhoi lle iddynt yn y rhifyn hwn.
Yn ogystal ȃ’r uchod, ymdriniaeth John Gwilym Owen ac Aled Griffiths, darlithwyr gynt yn Adran y Gyfraith, Prifysgol Bangor, ȃ chymal iaith drwg-enwog y Ddeddf Uno, ‘utterly to extirp all and singular the sinister usages and customs differing from the same’ (hynny yw, y Saesneg), yw thema’r ysgrif ‘Y Gyfraith a’r Gymraeg’. Byth oddi ar i Saunders Lewis ddwyn sylw i’r cymal hwn yn ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ yn 1962, bu’n rhan o fytholeg cenedlaetholdeb modern. Dadansoddiad mwy tyner sy gan yr awduron ac un a dâl i ni gyd roi sylw iddo.
Ynghyd ȃ’r uchod, ceir ail ran ysgrif Rosa Hunt ar berthnasedd Credo Nicea i’r bywyd eglwysig cyfoes, a thri adolygiad: Cynfael Lake ar ddetholiad o Gerddi Edward Moris, y bardd o’r ail ganrif ar bymtheg, Dafydd Johnston ar gasgliad ysgrifau llenyddol Dafydd Glyn Jones, Tylwythau Llȇn, a Rhys Llwyd ar gofiant diweddar Aled Eirug, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder. Rhwng popeth felly, dyma arlwy gyfoethog ar gyfer ein darllenwyr.
Dyma ni yn annog ffyddloniaid Cenn@d unwaith eto nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.



