Eglwysi


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
Presbytery:
Ceredigion a Gogledd Penfro (cy)
Gwefan:
-
Gwasanaethau:
10:30 neu/or 2:00 (Cymraeg/Welsh)
Rhif Cyswllt
01239 811538

Saif y capel yng nghanol pentref Blaenannerch, ar y brif ffordd o Aberteifi i Aberaeron. Daw ymwelwyr lu i’r capel o bedwar ban byd – mae pawb yn awyddus i weld y fangre gysegredig lle mae cymaint o hanes. Hanes Diwygiad 1904-05 sydd yn denu’r mwyafrif, pan, yn ystod ail bregeth Seth Joshua, syrthiodd Evan Roberts i’r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.

Ceir oedfaon yn y capel bob dydd Sul. Nid oes gennym weinidog ar hyn o bryd ond mae’r holl aelodau’n cydweithio’n hwylus iawn.