Newyddion

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Newyddion

26 Medi 2025

 

Caplan ar gyfer pobl hŷn wedi ei hapwyntio

Mae’r Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) wedi penodi ei Chaplan cyntaf erioed ar gyfer bobl hŷn.

Mae Sam Hodgins, sy’n byw yn Llandudno, gyda’i gwr Tim, yn frwdfrydig dros ei swydd newydd.

Dywedodd Sam:
“Dros y blynyddoedd rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd, ond yn rhy aml rydym wedi cymryd pobl hŷn yn ganiataol. Dyma’r unigolion sydd wedi arwain a chefnogi ein heglwysi mor ffyddlon dros y degawdau. Bwriad y swydd hon yw cydnabod eu hanghenion penodol, a darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i bobl wedi ymddeol a’u gofalwyr.”

Tynnodd Sam sylw at rai o’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn:
“Mae dementia yn fater mawr i lawer. Amcangyfrifir y bydd miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda dementia erbyn 2030. Pan ystyriwn mai’r priod a’r teuluoedd sy’n aml yn brif ofalwyr, mae’r ffigur yn sylweddol uwch fyth. Mae hyn yn golygu bod unigrwydd yn broblem enfawr. Yn aml mae pobl yn teimlo’n unig ac wedi’u datgysylltu o’r gymuned y buont yn rhan ohoni ers blynyddoedd lawer. Yn ogystal, nid yw llawer ohonynt bellach yn gallu mynychu capel oherwydd gwendid neu am eu bod yn gofalu am bartner sy’n rhy wael i adael y tŷ. Ar ben hyn oll, mae llawer o bobl hŷn yn teimlo eu bod wedi’u cau allan o’r byd digidol sy’n rheoli cymaint o fywyd modern. Mae nifer sylweddol dros 75 oed heb ffonau clyfar na gliniaduron, ac felly ni allant gyrchu cyfrifon banc ar-lein, tra bod canghennau banciau a swyddfeydd post lleol wedi cau neu wedi symud ymhellach i ffwrdd.”

Bydd rôl a gweinidogaeth newydd Sam yn cael eu lansio mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ar Hydref 11. O’r enw Gras ar gyfer Pob Tymor, bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu pobl wrth heneiddio ac at anghenion y rhai sy’n gofalu amdanynt.

Y prif siaradwyr fydd:

  • Tina English, sylfaenydd a chyfarwyddwr yr elusen Gristnogol Embracing Age, ac awdur A Great Place to Grow Old: Reimagining Ministry amongst Older People.

  • Y Parchedig John Treharne, gweinidog Bedyddiedig sy’n gwasanaethu yn Llwyn Hendy, gyda phrofiad helaeth o weithio gyda’r genhedlaeth hŷn.

Dywedodd y Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru:
“Rydym wrth ein bodd gyda phenodiad Sam. Yn ystod ei gwaith gyda ni dros sawl blwyddyn, mae hi wedi dangos tosturi, gwybodaeth a’r gofal bugeiliol sy’n angenrheidiol i bobl hŷn. Bydd y swydd newydd hon yn ein galluogi i ddeall yn well yr heriau sy’n eu hwynebu, a datblygu cefnogaeth fugeiliol gynaliadwy ar draws ein heglwysi.”

DIWEDD

Nodyn i’r Golygydd: Ceir manylion am y gynhadledd Gras ar gyfer Pob Tymor yn y JPEG atodedig.
Mae gan yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru dros 470 o eglwysi ac oddeutu 12,000 o aelodau.

Am ragor o wybodaeth i’r cyfryngau cysylltwch â Gethin Russell-Jones 07378 309268.